Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn falch o dynnu sylw'r Aelodau at y Bil Diwygio Cyfraith Cyfunddaliad a Lesddaliad drafft sydd wedi'i gyhoeddi yr wythnos hon ar gyfer gwaith craffu cyn deddfu yn Senedd y DU. 

Am ddegawdau, mae lesddaliad wedi canolbwyntio pŵer yn nwylo rhydd-ddeilwyr, tra bod miliynau o drigolion wedi gorfod talu'r pris. Mae'r anghydbwysedd hwn wedi bod yn ddinistriol: cloi pobl mewn contractau annheg, costau yn cynyddu a system sy'n rhwystro cymunedau rhag rheoli eu cartrefi eu hunain.

Mae Bil drafft Llywodraeth y DU yn cynnig newidiadau pwysig sydd i'w croesawu i'r gyfraith sy'n sail i fod yn berchen ar gartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd gan gynnwys: 

  • Cap ar rhent tir mewn lesoedd presennol o £250 y flwyddyn, yn gostwng i rhent hedyn pupur 40 mlynedd ar ôl cychwyn y ddeddfwriaeth. 
  • Diwygiadau i gyfunddaliad i'w wneud yn ddewis arall ymarferol i lesddaliad, sef yr hyn y bwriadwyd iddo fod o'r cychwyn cyntaf, yn dilyn y cynigion a nodwyd ym Mhapur Gwyn y llynedd.
  • Gwaharddiad ar ddefnyddio lesoedd penodol preswyl hir ar gyfer fflatiau o ddyddiad yn y dyfodol nad yw wedi'i bennu eto. Bwriedir i'r gwaharddiad weithredu mewn ffordd debyg i'r gwaharddiad ar dai lesddaliadol a nodir yn Neddf 2024.
  • Diddymu fforffedu lesddaliad ar gyfer lesoedd preswyl hir, lle gellir dod â les i ben os yw telerau'r les yn cael eu torri, a all ddigwydd weithiau ar gyfer dyledion cymharol fach. Mae'r Bil drafft yn nodi proses newydd i fynd i'r afael â thorri telerau trwy ‘hawliad gorfodi les’. 
  • Dileu opsiynau gorfodi anghymesur ar gyfer peidio â thalu mathau penodol o daliadau ystadau rhydd-ddaliadol. 

Ochr yn ochr â chyhoeddi'r Bil drafft, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio ymgynghoriad ar weithredu'r gwaharddiad ar fflatiau lesddaliadol yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y maes diwygio pwysig hwn. Fel y dywedais o'r blaen, mae'r gyfraith sy'n sail i lesddaliadau yn gymhleth ac yn heriol i berchnogion tai cyffredin fynd i'r afael â hi'n effeithiol. Bydd gweithio gyda'n gilydd ar gorff cyffredin o gyfraith ddiwygiedig yn lleihau cymhlethdod, yn gwneud y gyfraith mor eglur a chydlynol â phosibl, ac yn sicrhau bod y system ddiwygiedig decach newydd yn berthnasol i bawb.

Rwy'n annog perchnogion tai presennol, darpar berchnogion tai ac unrhyw randdeiliaid eraill sydd â diddordeb i droi at y cynigion hyn ac ystyried ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae'r Bil drafft a gwybodaeth esboniadol am ei gynigion i'w gweld yma: Draft Commonhold and Leasehold Reform Bill - GOV.UK (Saesneg yn Unig).

Gellir dod o hyd i'r ymgynghoriad ar wahardd fflatiau lesddaliadol yma: Moving to commonhold: banning leasehold for new flats - GOV.UK (Saesneg yn Unig).