Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Bil drafft Cymru heddiw. Mae cyfran sylweddol o'r Bil yn ymdrin â'r diwygiadau ariannol a gafodd eu hamlinellu yn ymateb diweddar Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, gan gynnwys datganoli pwerau trethu a benthyca penodol. Materion eraill sy'n cael eu cynnwys gan y Bil yw amserlen etholiadau'r Cynulliad, y cymwysterau gofynnol ar gyfer bod yn aelod o'r Cynulliad, a chyfrifon refeniw tai.

Bydd Llywodraeth Cymru'n astudio cynnwys y Bil drafft dros yr wythnosau nesaf, a bydd yn rhoi tystiolaeth yn ystod cyfnod yr Archwiliad Cyn-ddeddfwriaethol.

Byddaf yn sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael gwybod y newyddion diweddaraf wrth i'r Bil fynd ar ei hynt drwy'r Senedd.

I weld y Bil, ewch i'r wefan ganlynol:
https://www.gov.uk/government/publications/draft-wales-bill


Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau am imi wneud datganiad arall, neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.