Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Hydref 2015 cyhoeddais ddatganiad yn amlygu’r rhesymau dros yr oedi o ran cyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch addysg ddewisol yn y cartref. Fy mwriad ar y pryd oedd cyhoeddi’r canllawiau yn ystod  y Gaeaf hwn er mwyn rhoi amser i swyddogion i ystyried pob un o’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori.

Oherwydd cyhoeddiad arfaethedig o’r adolygiad ymarfer plant ynghylch farwolaeth Dylan Seabridge,  penderfynais ohirio cyhoeddi’r canllawiau hyn er mwyn i ni gael cyfle i ystyried canfyddiadau’r adolygiad ac i sicrhau bod ein canllawiau yn eu hadlewyrchu lle bo’n briodol.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau