Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi dogfen ganllawiau ar berchnogaeth leol a rhanberchnogaeth ar brosiectau ynni yng Nghymru. Wrth inni geisio cynyddu'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru i gefnogi ein hymrwymiadau sero net, yr ydym am wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru. Credwn fod perchnogaeth leol a rhanberchnogaeth yn darparu ffordd o gadw buddion yng Nghymru y tu hwnt i fodelau budd cymunedol traddodiadol. Mae'r canllawiau'n egluro sut y gellir cyflawni rhanberchnogaeth. Maent hefyd yn cynnig yr offer y bydd eu hangen ar ddatblygwyr, cymunedau lleol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i wireddu ein huchelgais a'n targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol a chymunedol.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyflawni un o argymhellion gwaith ymchwil manwl ynni adnewyddadwy'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a oedd yn ceisio nodi rhwystrau ac atebion i gynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo i ehangu'r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a mentrau cymunedol yng Nghymru dros 100 MW rhwng 2021 a 2026 wrth i ni geisio cyrraedd ein targed tymor hwy o 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2030. Mae'r ddogfen ganllawiau hon yn rhan o becyn cymorth, ochr yn ochr â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a chyllid i Ynni Cymunedol Cymru, i'n helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

Yn fwriadol, nid ydym wedi bod yn rhy ragnodol yn y modelau a awgrymwyd gan ein bod yn croesawu prosiectau creadigol ac arloesol ledled Cymru sy'n bodloni ein hamcanion ac anghenion cymunedau lleol. Dros amser, rydym yn rhagweld y bydd gennym enghreifftiau pellach o brosiectau ar y tir, ac o bosibl ar y môr, sy'n cwmpasu'r amcanion hyn ac yn helpu Cymru i ddod yn genedl flaenllaw o ran ynni mewn perchnogaeth leol a rhanberchnogaeth.

Byddwn yn parhau i fonitro perchnogaeth leol a rhanberchnogaeth ar brosiectau ynni ac yn cyhoeddi ein canfyddiadau drwy adroddiadau Cynhyrchu Ynni yng Nghymru yn y dyfodol.

Gellir gweld y ddogfen ganllaw a’r templed Adroddiad Buddion Cydweithredol cysylltiedig yma.