Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill eleni, gan roi'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wraidd ein system gofal cymdeithasol. Rwyf am gyfleu i Aelodau'r Cynulliad, un ffordd y bwriadwn ddangos bod y dull newydd yn gweithio'n dda ac yn cyflawni canlyniadau gwell i bobl.

Fel rhan o'r fframwaith statudol newydd, bydd pobl ag anghenion gofal a chymorth, neu ofalwyr ag anghenion cymorth, yn nodi eu canlyniadau personol a'r hyn sy'n bwysig iddynt hwy. Yna bydd unigolion, eu gofalwyr a theuluoedd, yn ogystal ag eiriolwr lle y bo'n briodol, yn cydweithio ag ymarferwyr i ganfod y ffordd orau i'r unigolyn gyflawni'r canlyniadau hynny. Gall hyn gynnwys drwy gynllun gofal a chymorth a reolir, gwasanaethau ataliol neu drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Cam pwysig ar y daith i sicrhau bod pobl yn ganolog i'w gofal a'u cymorth yw eu grymuso i allu nodi a mesur y cynnydd y maent yn ei wneud i gyflawni eu canlyniadau personol. Yn y gorffennol, ni fu dull cyffredin sy'n berthnasol i'r unigolyn a'r gweithiwr proffesiynol, ac a berchenogir gan y ddau ohonynt.  

Felly, rydym wedi mabwysiadu'r dull cydgynhyrchu sydd wedi gweithio'n dda i ni wrth i ni baratoi ar gyfer y Ddeddf a'i rhoi ar waith. Gan adeiladu ar y rhaglen beilot lwyddiannus o dan arweiniad yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) a gweithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill, rydym wedi datblygu dull o gofnodi ac adrodd ar gynnydd tuag at ganlyniadau personol i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Am y tro cyntaf bydd y dull yn gyson ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd gennym ddull cyffredin o feintioli nifer y bobl sydd wedi cyflawni, neu sy'n gweithio tuag at gyflawni eu hamcanion. Egwyddor ganolog y dull hwn yw mai'r person ei hun sy'n mesur ei gynnydd. Bydd y canllawiau rwyf yn eu cyhoeddi heddiw yn helpu ymarferwyr ledled Cymru i gymhwyso hyn yn gyson ac yn briodol.

Fel rhan o'n dull a reolir, rydym yn cynnig bod awdurdodau lleol yn profi'r canllawiau drafft ar gyfer gweddill y flwyddyn. Yna byddwn yn ailgynnull ymarferwyr yn ystod gwanwyn 2017 i ddadansoddi'r adborth ar unrhyw faterion ymarferol sydd wedi codi er mwyn diwygio'r canllawiau a'u cyhoeddi ar eu ffurf derfynol yn ystod haf 2017.  

Er mwyn cefnogi'r broses weithredu, mae Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol, a reolir gan SSIA ar ein rhan, yn bwriadu rhoi hyfforddiant i staff o bob awdurdod lleol yng Nghymru ar y fethodoleg hon erbyn mis Mai 2017.

Mae'r canllaw ar gael yma: http://gov.wales/topics/health/socialcare/well-being/?skip=1&lang=cy