Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau’n gwybod ein bod wedi ymgynghori’n ddiweddar ar y canllawiau newydd ar gyfer newidiadau i wasanaethau’r GIG.

Roedd y canllawiau gwreiddiol dros 10 mlwydd oed. Maent wedi cael eu diweddaru ar ôl sefydlu Llais, Corff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sydd wedi disodli’r rhwydwaith o gynghorau iechyd cymuned o Ebrill 2023.

Mae’r canllawiau newydd hyn wedi eu datblygu ar ôl ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Bwrdd yr hen Gynghorau Iechyd Cymuned gynt, cynrychiolwyr Llais, a’r GIG. Daeth yn amlwg bod llawer o’r canllawiau blaenorol yn parhau’n briodol, ac felly mae’r canllawiau hynny wedi cael eu cynnwys heb eu newid yn y ddogfen newydd hon.

Er bod y canllawiau hyn ar gyfer newidiadau i wasanaethau yn ddogfen ar gyfer y GIG ynghylch gwasanaethau y mae’r GIG yn eu comisiynu a’u darparu ar gyfer y cyhoedd, dylai’r egwyddorion a amlinellir fod o gymorth wrth weithredu unrhyw newidiadau. Nod y canllawiau yw rhoi arweiniad ac ysgogi cwestiynau trafod i sefydliadau’r GIG o ran materion perthnasol i’w hystyried wrth iddynt fynd ati i gyflwyno newidiadau i wasanaethau.

Wrth ddatblygu cynigion, rhaid i gyrff y GIG ystyried y Ddyletswydd Ansawdd, gan neilltuo amser ar gyfer casglu tystiolaeth o ran sut y gall unrhyw gynigion o ran newidiadau i wasanaethau effeithio ar yr angen i wella gwasanaethau iechyd yn gyffredinol a chyfrannu at well canlyniadau iechyd i bobl.

Mae’r GIG wedi esblygu’n barhaus ers ei sefydlu ar 5 Gorffennaf 1948. Pan aeth Aneurin Bevan ati i sefydlu’r gwasanaeth iechyd, byddai wedi bod yn amhosibl dychmygu’r math o ofal a roddir i bobl heddiw. Diolch i ddatblygiadau mewn technoleg, meddyginiaethau, ac arferion clinigol, mae’r GIG yn rhoi gofal a thriniaeth i bobl a fyddai fel arall wedi marw yn y gorffennol.

Mae’r GIG yn esblygu yn gyson er mwyn bodloni’r canllawiau clinigol diweddaraf, yr angen i wrando ar adborth gan gleifion a staff, a disgwyliadau cynyddol y cyhoedd. Mae’n hanfodol felly bod newidiadau i wasanaethau yn cael eu cyflwyno mewn modd effeithlon, ac mae’n bwysig bod y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG yn cael mynegi barn ynghylch sut maent yn cael eu datblygu.

Mae’r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Canllawiau ynghylch newidiadau i wasanaethau iechyd

Disgwylir i’r canllawiau gael eu hadolygu ar ôl iddynt fod yn weithredol am flwyddyn.