Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r pandemig Covid-19 wedi cael effaith na welwyd ei thebyg o’r blaen ar blant a phobl ifanc. Drwy gydol y cyfnod hynod heriol hwn, mae lleoliadau addysg ledled Cymru wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na fydd unrhyw beth yn tarfu i’r fath raddau ar ein dysgwyr eto. Ein disgwyliad yw y dylai pob ysgol a lleoliad gofal plant fod yn cynllunio ar gyfer achosion o darfu yn y dyfodol, waeth beth fydd yr achos, gan roi blaenoriaeth i addysg a lles pob dysgwr.

I gefnogi hyn, rwyf heddiw wedi cyhoeddi canllawiau newydd https://llyw.cymru/canllawiau-parhad-dysgu a https://llyw.cymru/canllawiau-i-leoliadau-addysg-gofal-plant-ar-gynllunio-argyfyngau-ac-ymateb-iddynt ar gyfer lleoliadau addysg, gofal plant a lleoliadau plant. Mae’r rhain wedi’u llunio ar y cyd â’n partneriaid allweddol, gan gynnwys undebau addysg, Estyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Rhanbarthau a Phartneriaethau, a chynrychiolwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach a sefydliadau gofal plant.  

Bydd y Canllawiau Parhad Dysgu yn cael eu cefnogi drwy ystod eang o adnoddau a dysgu proffesiynol a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru, y Rhanbarthau a’r Partneriaethau. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau i ddysgwyr sydd mewn blynyddoedd arholiadau a fydd yn cael eu datblygu gan CBAC, ynghyd ag ystod o astudiaethau achos, adnoddau dysgu cyfunol, synthesis ymchwil, arferion da rhyngwladol a dysgu proffesiynol dan arweiniad ymarferwyr.