Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’). Mae'r canllawiau'n cael eu cyhoeddi o dan adrannau 14, 22(2), 51(1) a 40(7) o'r Ddeddf.

Mae'r canllawiau statudol yn garreg filltir bwysig wrth roi'r Ddeddf ar waith, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2016 ar gyfer cyrff cyhoeddus penodol ar draws Cymru. Maent yn cynnwys trosolwg cryno o bwysigrwydd y Ddeddf a chanllawiau mwy manwl i weision cyhoeddus.

Ein blaenoriaeth oedd datblygu canllawiau clir a syml i'w defnyddio gan gyrff cyhoeddus penodol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i roi'r Ddeddf ar waith yn gyson ac yn hyderus, i sicrhau y gall y ddeddfwriaeth arloesol hon gael yr effaith fwyaf bosibl.

Mae'r canllawiau'n darparu eglurdeb a chyfarwyddyd i'r rheini sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf ac maent yn ffrwyth proses ymgysylltu a ddechreuodd ym mis Ionawr 2015. Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar 7 Medi 2015 am 10 wythnos, a daeth i ben ar 16 Tachwedd 2015. Cawsom 107 o ymatebion i'r ymgynghoriad, a hoffwn ddiolch i'r rheini a ymatebodd am eu sylwadau. Mae crynodeb o'r ymatebion wedi cael ei gyhoeddi ac roeddwn yn falch iawn o weld bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi croesawu'r Ddeddf a thynnu sylw at ei phwysigrwydd.

Mae'r Grŵp Cynghori Technegol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r broses ymgysylltu i gefnogi'r gwaith hwn.  Felly, hoffwn nodi fy niolch i'r grŵp am ei waith.  Hoffwn achub y cyfle hwn hefyd i ddiolch yn fawr i Peter Davies am ei gyfraniad sylweddol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Yn rhinwedd ei swydd fel cyn-Gomisiynydd Datblygu Cynaliadwy'r DU, fel Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, drwy ei waith ar ‘y Gymru a Garem’  ac wrth gadeirio'r Grŵp Ymgynghori Technegol, mae wedi chwarae rôl allweddol nid yn unig wrth ddatblygu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond hefyd wrth helpu Cymru i arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes datblygu cynaliadwy.