Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynwyd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn 2014. Mae’n rhoi darlun clir o sut y mae ysgolion yng Nghymru yn perfformio, a lefel y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yn well. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r categorïau cymorth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Dyma’r bedwaredd flwyddyn inni wneud hyn.

Nod y system gategoreiddio yw pennu’r cymorth sydd ei angen ar ysgolion er mwyn iddynt wella. Mae’n cynnig ffordd gyfannol, holistaidd o wella ysgolion - gan ystyried cyd-destun yr ysgol ac ystod eang o wybodaeth wrth ddyfarnu ar hunanasesiad yr ysgol a’i chapasiti i wella.

Nod y system yw cynorthwyo ac annog gwella drwy gydweithio, nid labelu na chreu tablau cynghrair amrwd.  Y nod yw helpu ysgolion i weld pa ffactorau sy’n cyfrannu at gynnydd a llwyddiant, a pha feysydd y dylid canolbwyntio arnynt i wella ymhellach.

Mae’r system yn gwerthuso ac yn asesu ysgolion ac yna’n eu rhoi mewn categori cymorth gan ddefnyddio’r broses isod:

• Cam Un: Rhoddir ystod eang o wybodaeth am berfformiad i ysgolion gan Lywodraeth Cymru fel sail i’w hunanasesiadau o’u capasiti i wella mewn perthynas â dysgu ac addysgu, ac fel man cychwyn i’w trafodaethau â’r cynghorydd herio yn y consortiwm rhanbarthol am eu perfformiad a meysydd i’w gwella;  

• Cam Dau: Cynghorwyr herio yn y consortia rhanbarthol i asesu hunanasesiadau’r ysgolion;

• Cam Tri: Ar ôl dadansoddi’r dangosyddion deilliannau a’r wybodaeth hunanasesu, cytunir ar gategori cymorth drafft, a hynny drwy drafod â’r ysgol. Caiff y categori hwn yna’i gymedroli gan yr awdurdod lleol a’r consortiwm addysg rhanbarthol. Yna, caiff ei wirio ar lefel genedlaethol, a rhoddir categori lliw i’r ysgol a fydd yn sbarduno rhaglen benodol o gymorth, heriau ac ymyriadau.

Mae canllawiau am hyn ar gael, ac maent wedi’u diweddaru i esbonio’r broses mewn mwy o fanylder.

Mis Medi diwethaf, cyhoeddais newidiadau i’r system o eleni ymlaen: ni fydd Llywodraeth Cymru bellach yn defnyddio set benodol o ddata i gyfrifo Grŵp Safonau ar gyfer ysgolion fel rhan o Gam Un. Mae’r newid hwn yn deillio o argymhellion yn asesiad cyflym y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o’n system addysg. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i ddiwygio atebolrwydd, fel y nodir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl.

Caiff y newid hwn effaith sylweddol: yn ei sgil, mae’r system yn manteisio ar ystod ehangach o wybodaeth fel sail i hunanasesiadau’r ysgolion, a rhoddir mwy o bwyslais ar ddeialog broffesiynol rhwng ysgolion a’u cynghorwyr herio. Mae hyn yn adlewyrchu soffistigeiddrwydd a thrylwyredd y system yr ydym wedi’i datblygu dros gyfnod, ar y cyd â’r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

Mae’r ffigurau yr ydym wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod  85.3 y cant o ysgolion cynradd a 68.3 y cant o ysgolion uwchradd bellach yn y categorïau gwyrdd neu felyn. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â llynedd ac mae’n parhau â’r cynnydd sydd wedi’i weld ers 2015. Mae hyn yn galonogol. Bydd gan yr ysgolion hyn rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi ysgolion eraill yng Nghymru drwy rannu arbenigedd, sgiliau, ac arfer da. Drwy hyn, byddant yn gwneud cyfraniad hollbwysig tuag at sicrhau gwelliannau i addysg yng Nghymru a’n symud ni tuag at system o hunanwella parhaus.

Mae’r hyn a gyhoeddwn heddiw yn dangos yn glir ein bod yn datblygu system gefnogol a chydweithiol yng Nghymru, ac y byddwn yn sicrhau bod ysgolion - a dysgwyr yn y pendraw - yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a hynny’n amserol, i wireddu eu potensial. Yn awr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion adolygu’r system gyda’n consortia addysg rhanbarthol er mwyn canfod y ffordd orau ymlaen i gategoreiddio yn nhirlun addysg Cymru, sy’n datblygu o hyd, ac yng nghyd-destun ein gwaith diwygio.

http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolcategorisation/?lang=cy