Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y cyhoeddwyd y llynedd, rydym wedi cyflwyno'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, gan weithio ar y cyd â'n consortia addysg rhanbarthol.  Arweiniodd hyn at gyhoeddi, am y tro cyntaf, gategori lliw ar gyfer pob ysgol ar ddiwedd Ionawr 2015, a oedd yn adlewyrchu ei hangen am gefnogaeth.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r categorïau cefnogaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd am yr ail flwyddyn.  Mae hyn yn dilyn proses drylwyr ranbarthol a chenedlaethol o gymedroli a gwirio.

Mae'n bwysig cofio bod y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion wedi'i datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r consortia addysg rhanbarthol.  Gwnaethom gydweithio i ddatblygu'r system ac rydym wedi mynd ati eleni i barhau i wella'r system ac i addasu rhywfaint ar y metrigau a ddefnyddiwyd ar gyfer y data. Oherwydd hyn, mae'n anodd cymharu canlyniadau eleni'n uniongyrchol â rhai'r llynedd. Cafodd y metrigau newydd hyn eu trafod gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, penaethiaid ac undebau.  

Prif ddiben y system gategoreiddio yw nodi lefel y gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion a, thrwy wneud hynny, sicrhau y gallwn fynd ati i gefnogi a neilltuo adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl er mwyn gwella ein system ysgolion; ac, o ganlyniad, godi safonau a pherfformiad yng Nghymru.  
Mae categoreiddio'n cynnig dull cyfannol o wella ysgolion, sy'n caniatáu i'r consortia addysg rhanbarthol ystyried cyd-destun ysgolion wrth bennu dyfarniad ynghylch hunanwerthusiad ysgol a'i chapasiti i wella.
Diben y system yw darparu cefnogaeth ac annog gwella ar y cyd, yn hytrach na gosod labeli na llunio tablau cynghrair moel. Mae'n broses sy'n rhoi ysgolion mewn sefyllfa sy'n eu galluogi nhw i nodi'r ffactorau sy'n cyfrannu at eu cynnydd a'u llwyddiant ac i ddeall pa feysydd sy'n rhaid canolbwyntio arnyn nhw i sicrhau eu bod yn parhau i ddatblygu.

Mae'r system yn seiliedig ar dri cham syml. Nid dim ond ffigurau fydd y sail. Mae'r arweinyddiaeth, yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion hefyd yn cael eu hystyried.  

  • Dyfarniad wedi'i seilio ar ddata yw cam un sy'n defnyddio set o fesuriadau perfformiad cymeradwy a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.  
  • Yng ngham dau, mae'r ysgolion yn hunanwerthuso eu capasiti i wella mewn perthynas ag arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu. 
  • Yng ngham tri, caiff y ddau ddyfarniad eu hystyried ar y cyd i rannu'r ysgolion yn gategorïau lliw. Bydd hyn yn arwain at raglen o gefnogaeth, her ac ymyrraeth a fydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer pob ysgol. Bydd angen i'r awdurdod lleol a'r consortiwm addysg rhanbarthol gytuno ar hyn.

Mae'n werth atgoffa Aelodau'r Cynulliad bod y model data a ddefnyddiwyd i greu cam un yn fodel absoliwt ar gyfer 2015 a 2016. Mae hyn yn golygu bod gan bob ysgol yng Nghymru gyfle i wella ei grŵp safonau, gan fod y meincnodau perthnasol wedi'u gosod am gyfnod penodol.  

Er na ddylid cymharu deilliannau'n uniongyrchol â rhai'r llynedd oherwydd  addasiadau i'r metrigau data a chryfhau'r meini prawf a ddefnyddir ar gam dau, rydym wedi canfod bod 79.5% o ysgolion cynradd a 57% o ysgolion cynradd yn y categorïau gwyrdd neu felyn.  Bydd gan yr ysgolion hyn ran allweddol i'w chwarae wrth gefnogi ysgolion eraill, a rhannu eu sgiliau, arbenigedd ac arfer da. Byddant yn gwneud cyfraniad hanfodol o ran gwella system ysgolion Cymru drwyddi draw.

O ran ysgolion uwchradd, rwyf wedi ei gwneud yn eglur, fel rhan o'r broses, y bydd unrhyw ysgol sydd ddim yn cyrraedd y safon sylfaenol gymeradwy ar gyfer perfformiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (disgyblion eFSM) yn cael ei gosod yn awtomatig yng ngrŵp safonau 3.  Os yw'r dangosyddion eraill yn dda, ac yn cyd-fynd ag asesiad cryf gan y consortiwm ar Gam dau, dyfarniad categori melyn yw'r gorau y gall yr ysgol ei gael. Ni fydd, felly, unrhyw ysgolion categori gwyrdd yng Nghymru nad ydynt wedi bodloni'r safon sylfaenol o 30% (cyfartaledd wedi'i bwysoli dros 3 blynedd) ar gyfer eu disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2015.

Bydd categori cefnogaeth pob ysgol yn arwain at raglen o gefnogaeth a fydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer yr ysgol honno, ac a fydd wedi'i chytuno â'r ysgol.  

Bydd categori pob ysgol yn cael ei gyhoeddi heddiw ar wefan Fy Ysgol Leol. Bydd rhestr gyflawn o'r canlyniadau ar gael ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru ar gyfer y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion hefyd.  Mae canllawiau cynhwysfawr eisoes wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, consortia a llywodraethwyr, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer rhieni. Mae'r rhain ar gael ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru ar gyfer y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion.