Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym heddiw yn cyhoeddi Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Plant 0-3 oed yng Nghymru i gefnogi ein hymarferwyr i gynnig darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel yng Nghymru. 

Mae datblygiad plant yn ganolog i'n polisïau a'n darpariaeth chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar.

Nod Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Trefniadau Asesu ar gyfer Plant 0-3 oed yng Nghymru yw cefnogi datblygiad, dysgu a lles pob babi a phlentyn ifanc o'u geni nes eu bod yn dair oed. Mae'r trefniadau yn rhoi gwerth ar hunaniaeth, cefndir a phrofiadau unigryw pob babi a phlentyn ifanc, ac yn annog ymarferwyr i fynd i'r afael â datblygiad, dysgu a gofal mewn ffordd holistaidd, sy'n ymateb i'r unigolyn. 

Mae'r ddogfen ganllaw hon yn cyd-fynd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru, darpariaeth Dechrau'n Deg a Cwricwlwm i Gymru.

Dylid defnyddio'r adnodd hwn ochr yn ochr ag adnoddau eraill Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar i helpu ymarferwyr gyda'u hasesiadau a'u harsylwi mewn ymateb i anghenion a diddordebau babanod a phlant ifanc wrth iddynt ddatblygu. 

Rydym am ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu'r adnodd hwn, sydd wedi'i greu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr.

Bydd yr adnodd hwn yn parhau i fod yn fersiwn ddrafft am y flwyddyn nesaf wrth inni ymgysylltu â'r ystod ehangaf posibl o ymarferwyr. Rydym yn bwriadu cyhoeddi fersiynau terfynol ym mis Medi 2026.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.