Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae coffáu cyhoeddus yn ganolog i’r ffordd rydym yn cynrychioli’n hanes, yn hyrwyddo’n gwerthoedd ac yn dathlu’n cymunedau. Ond gall weithiau fod yn ddadleuol a bydd wastad o ddiddordeb aruthrol i’r cyhoedd. Rwy’n falch o gyhoeddi canllawiau newydd i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau gwybodus am goffáu heddiw ac yn y dyfodol mewn mannau cyhoeddus, ac wrth wneud hynny, gyfrannu at ein nod o Gymru wrth-hiliol.
Yn 2020, tynnodd Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru sylw i’r graddau y mae ffigyrau sy’n gysylltiedig â’r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd yn cael eu coffau mewn mannau cyhoeddus, a hefyd at absenoldeb cyffredinol pobl o grwpiau Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol o dirwedd coffa cyhoeddus. Mae’r Canllawiau hyn yn ystyried y materion hyn ymhellach ac yn cyffwrdd ar gwestiynau ehangach diffyg cynrychiolaeth a hanesion sy’n cael eu herio ac mae’n cyflawni ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i fynd i’r afael yn llawn ag argymhellion yr archwiliad. Mae hefyd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i gam penodol yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ‘adolygu ac ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu mewn gofodau a chasgliadau cyhoeddus, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn’.
Mae coffadwriaethau yn elfen bwysig o dir y cyhoedd, ac er bod llawer yn annadleuol, gall eraill fod yn ddadleuol. Mae pob un ohonynt yn cyfleu rhywbeth o werthoedd eu cyfnod ac mae rhai’n gallu cyflwyno gwirioneddau anghyfforddus. Mae’r canllawiau’n esbonio’r materion sy’n ymwneud â choffáu cyhoeddus ac yn dangos sut y gellir ei ddefnyddio nid yn unig i wella dealltwriaeth o’r gorffennol a’i waddol, ond hefyd i ddathlu amrywiaeth ein cymunedau. Fel hyn, bydd y camau a nodir yn y canllawiau hyn yn helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni’r cyfrifoldeb penodol hwn tuag at gyflawni Cymru wrth-hiliol.
Mae hwn yn bwnc sensitif, ac mae’r canllawiau wedi’u datblygu drwy broses ofalus o ymgysylltu ac ymgynghori. Mae wedi cael ei lywio gan farn sbectrwm eang o randdeiliaid ac mae’n cynnwys enghreifftiau o bob cwr o’r byd o sut mae pynciau anodd i’w coffáu wedi cael eu trin.
Ni ddylem osgoi’r materion y gall coffáu cyhoeddus eu codi, ac rwy’n gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn ysgogi ymateb cadarnhaol a gweithredol sy’n cyfrannu at gyfrif mwy cytbwys o’n gorffennol, a mynegiant clir o’n gwerthoedd presennol.