Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin cyhoeddais ymgynghoriad ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar y rhestrau o undebau llafur a chyrff cynrychioli dysgwyr at ddibenion penodi aelodau cyswllt.

Rwyf bellach wedi cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Roedd yr ymatebwyr yn fodlon ar y cyfan â’r rhestrau o undebau llafur a chyrff cynrychioli dysgwyr. Gan mai ychydig o'r undebau sy'n rhychwantu sawl maes yn y sector, roedd y sylwadau a gafwyd yn ymwneud yn gyffredinol â sectorau unigol. Fodd bynnag, roedd sawl ymatebydd yn teimlo y dylai'r Comisiwn sicrhau cynrychiolaeth draws-sector a chynigiwyd cynrychiolwyr ychwanegol ar gyfer bod yn aelodau cyswllt ym mhob un o'r tri chategori.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymateb. Mae'r ymatebion wedi cael eu hystyried yn ofalus, ac maent wedi llywio'r rhestr ddiwygiedig o Undebau Llafur a chyrff cydnabyddedig. Mae'r rhestrau wedi'u diwygio mewn sawl ffordd yn dilyn yr ymatebion a gafwyd, ac o ganlyniad rwy'n fodlon eu bod yn darparu cronfa gref a chynhwysfawr o Undebau Llafur a chyrff cynrychioli dysgwyr i wahodd enwebiadau ar gyfer aelodau cyswllt o'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd gan yr aelodau hyn rôl hanfodol i'w chwarae o ran cynghori'r bwrdd, a maes o law byddaf yn gwahodd y sefydliadau hynny ar y rhestrau i enwebu unigolion i gael eu hystyried ar gyfer aelodaeth gyswllt o fwrdd y Comisiwn.

Fel y nodir yn Atodlen 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, cynhelir proses benodiadau Gweinidogol yn dilyn enwebu ymgeiswyr fel aelodau cyswllt, gyda'r bwriad o benodi'r aelodau cyswllt unwaith y daw'r Comisiwn yn weithredol ym mis Ebrill 2024.

Rwy'n cydnabod bod amrywiaeth gweithlu'r sector hwn a'i ddysgwyr yn golygu y bydd ymgynghori  a chydweithio ar draws pob elfen yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn cyflawni'r nodau yr ydym i gyd yn eu rhannu. Wrth i'r Comisiwn barhau i ddatblygu a thyfu yn ei rôl, byddaf yn disgwyl iddo weithio'n agos â sefydliadau cynrychioliadol i ddyfeisio ffyrdd o weithio i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Yn ogystal â sefydlu'r aelodau cyswllt ar y Bwrdd, bydd y Comisiwn yn ceisio ymgysylltu ac ymgorffori barn a lleisiau dysgwyr fel rhan ganolog o'i waith. Rwy'n disgwyl y bydd yn flaenoriaeth i'r Comisiwn ddatblygu mecanweithiau effeithiol i gasglu'r safbwyntiau hynny a bydd yr awgrymiadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu rhannu â'r Comisiwn i'w hystyried fel rhan o'r broses honno.

Byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau'r Senedd am unrhyw ddatblygiadau unwaith y bydd yr enwebiadau wedi dod i law.