Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru ar 10 Hydref 2023 a daeth i ben ar 16 Ionawr 2024. Cafodd Llywodraeth Cymru 140 o ymatebion ysgrifenedig gan ystod eang o unigolion a sefydliadau ar draws y sector tai a digartrefedd. 

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn yn dilyn 14 mis o waith datblygu, wedi'i lywio gan argymhellion Panel Adolygu Arbenigol Annibynnol ac ymgysylltu â mwy na 350 o bobl sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd a mewnbwn eang gan randdeiliaid ledled Cymru. 

Mae'r ymgynghoriad yn holi barn am:

  • ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd bresennol i sicrhau bod y gyfraith yn helpu i atal digartrefedd yn y mwyafrif helaeth o achosion;
  • dyletswyddau newydd arfaethedig ar wasanaeth cyhoeddus ehangach Cymru i helpu i atal digartrefedd;
  • cynigion wedi'u targedu er mwyn atal digartrefedd ar gyfer pobl yr effeithir yn anghymesur arnynt; a
  • chynigion i wella mynediad i lety addas.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, ymgysylltodd swyddogion â rhanddeiliaid yn helaeth.  Roedd hyn yn cynnwys pum digwyddiad rhithwir ar themâu penodol gan gynnwys, ymhlith eraill, y sectorau iechyd a chyfiawnder troseddol.  Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiadau gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddeall eu pryderon penodol a chyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru. 

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn llywio nifer o gynigion ar gyfer newidiadau i bolisi a chyfraith, fel rhan o'n Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Chydweithio sy'n cynnwys ymrwymiad i ddiwygio cyfraith tai a gweithredu argymhelliad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym.

Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad, gan gynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a phawb a aeth i'r digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys y Panel Adolygu Arbenigol i ddatblygu ein dull i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.