Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Genedlaethol ddeng mlynedd ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Lansiwyd yr ymgynghoriad yn gynharach eleni a daeth i ben ym mis Hydref. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i unigolion, rhanddeiliaid a sefydliadau a roddodd o'u hamser i rannu eu profiadau a'u gwybodaeth, gan ddarparu safbwyntiau gwerthfawr.
Yn gyffredinol, mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn gefnogol i'r strategaeth, ei hamcanion strategol a'r camau gweithredu â blaenoriaeth a nodwyd gan randdeiliaid allweddol. Bydd yr ymatebion hyn yn llywio fersiwn derfynol y strategaeth a'r cynllun cyflawni tair blynedd cyntaf, y bwriadwn eu cyhoeddi’n gynnar yn 2026.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol drwy ddull gweithredu hirdymor, sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y strategaeth hon yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y degawd nesaf, wedi'u hategu gan gamau gweithredu sy'n cryfhau mesurau atal, amddiffyn a chymorth i blant, teuluoedd ac oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr.
