Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn Mai cyhoeddais y byddai’r Athro Elwen Evans QC yn cynnal  adolygiad annibynnol o’r llifogydd a ddigwyddodd ledled Cymru yng ngaeaf 2020-21. Rwyf wedi gwneud datganiad i Senedd Cymru ac wedi ateb cwestiynau’r Aelodau am yr ymrwymiad hwn.

Mae’r adolygiad yn rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, mae Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Sian Gwenllian a finnau wedi bod yn cydweithio’n glos i ddatblygu cwmpas, dull gweithio a chylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad.

Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar y Cylch Gorchwyl terfynol. I'w weld, cliciwch yma https://llyw.cymru/adolygiad-annibynnol-o-adroddiadau-llifogydd-adran-19-cnc-cylch-gorchwyl

Mae’r Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er lles ein cymunedau i ddysgu o’r gorffennol, i newid pethau lle bo angen a datblygu arferion da. Bydd canlyniad yr adolygiad yn ein helpu i wella’r ffordd rydym yn amddiffyn rhag llifogydd i leihau’r perygl o lifogydd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.