Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy'n byw mewn tlodi a lleihau'r bylchau economaidd, addysgol a iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a chyfoethog.  Gyda'i hamcanion strategol o gymunedau llewyrchus, cymunedau dysgu a chymunedau iachach, mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn sail i'n Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi, ac mae'n elfen bwysig o ran cyflawni ein huchelgeisiau.  Rwyf felly wedi cytuno cyllid o £31.7 miliwn i Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2015 tan 31 Mawrth 2016.  


Bydd y cyllid o fudd i 52 o ardaloedd o'r enw Clystyrau, wedi'u lleoli yn ardaloedd yr awdurdodau lleol ledled Cymru.  Cyflwynodd y clystyrau gynlluniau cyflenwi manwl, i gefnogi eu cais am gyllid ar gyfer 2015/16.  Rhoddwyd amlinelliad o sut y byddai Clystyrau yn gweithio tuag at dair nod strategol y rhaglenni.  Mewn cyfnod o doriadau i'r gyllideb nas gwelwyd mo'u tebyg, bydd pob un ohonynt yn derbyn 95% o'r cyllid y gwnaethant gais amdano.


Rydym hefyd yn edrych ar gyllid pellach drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop fydd yn ategu gwaith rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.  


Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn £662,200 fydd yn mynd tuag at glwstwr Cymunedau yn Gyntaf Môn 


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr yn derbyn £1,738,317 – fydd yn cael ei rannu rhwng y dair ardal glwstwr:  Pen-y-Bont ar Ogwr Uchaf, Canol ac Isaf


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn £2,902,016 – fydd yn cael ei rannu rhwng pedair ardal glwstwr: Basn Caerffili, Gorllewin Canol y Cymoedd, Cwm Rhymni Uchaf, Dwyrain Canol y Cwm  


Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn derbyn £2,984,094 – fydd yn cael ei rannu rhwng pedair ardal glwstwr: Gorllewin, BRG, Dwyrain, STAR


Bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn derbyn £580,007 fydd yn mynd tuag at glwstwr Sir Gaerfyrddin


Bydd Dinas a Sir Abertawe yn derbyn £2,844,812 fydd yn cael ei rannu rhwng pum ardal glwstwr: De, Dwyrain, Gorllewin, Gogledd-ddwyrain, Gogledd-orllewin  


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn derbyn £580,381 fydd yn mynd tuag at glwstwr Conwy


Bydd Cyngor Sirol Sir y Fflint yn derbyn £676,315 fydd yn cael ei rannu rhwng dwy ardal glwstwr: Fflint Ddinesig (Dwyrain), Flint Gwledig (Gorllewin)


Bydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent  – Blaenau Gwent yn derbyn £1,130,378 fydd yn cael ei rannu rhwng dwy ardal glwstwr: Dyffryn Glyn Ebwy, Tredegar


Bydd Cyngor Sir Gwynedd yn derbyn £576,675 fydd yn mynd tuag at glwstwr Gwynedd


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful  yn derbyn £1,888,535 fydd yn cael ei rannu rhwng tri clwstwr:  Canolbarth, Gogledd, De  


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn derbyn £1,729,229 fydd yn cael eu 
rhannu rhwng tri clwstwr: Castell-nedd, Afan, Cymoedd y Gorllewin


Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn £2,391,530 fydd yn cael ei rannu rhwng pedwar clwstwr: Gogledd, Dwyrain, Gorllewin, Canolog


Bydd NSA Afan yn derbyn £526,800 fydd yn mynd tuag at glwstwr Sandfields ac Aberafon


Bydd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf yn derbyn £4,850,025 fydd yn cael ei rannu rhwng wyth clwstwr: Porth, Canol Rhondda, Rhondda Fawr Uwch, Cynon Uwch, Rhondda Fach Uwch, Gorllewin Taf, Cynon Is, Pontypridd


Bydd y Grŵp Cydweithredol yn derbyn £2,584,539 fydd yn cael ei rannu rhwng pedwar clwstwr:  Gogledd Ebbw Fach (Blaenau Gwent), De Ebbw Fach (Blaenau Gwent), Gorllewin/De-orllewin a Dinbych Uwch (Sir Ddinbych), Sir Benfro


Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn derbyn £1,302,452 fydd yn cael ei rannu rhwng dau glwstwr: Gogledd Torfaen, De Torfaen


Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn £580,922 fydd yn mynd i Glwstwr y Barri  

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn £1,252,447 fydd yn cael ei rannu rhwng dau glwstwr: Pentrefi Trefol Wrecsam, Parc Caia & Hightown

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.