Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf, Cymru’r Dyfodol y cynllun cenedlaethol 2040 yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae Cymru’r Dyfodol yn fath newydd o gynllun datblygu sy'n darparu strategaeth ofodol genedlaethol sy'n nodi lle y dylai Cymru ganolbwyntio arno o ran datblygu dros yr 20 mlynedd nesaf i fynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio.  Mae hyn yn cynnwys cynnal a datblygu economi lewyrchus, cefnogi canol ein trefi a'n dinasoedd, sicrhau datgarboneiddio a gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau. Mae Cymru’r Dyfodol yn adlewyrchu'r gwersi sy'n cael eu dysgu o gyfnod pandemig COVID-19.  

Un o amcanion sylfaenol Cymru’r Dyfodol yw sicrhau bod y system gynllunio yn gyson â nodau a pholisïau strategol Llywodraeth Cymru ar bob lefel, ac yn eu cefnogi. Felly, mae nifer o strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru wedi llywio a helpu i lunio Cymru’r Dyfodol, gan gynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, y Strategaeth Drafnidiaeth, 

y Polisi Cenedlaethol ar Adnoddau Naturiol a chynllun Cymru Carbon Isel. Mae'n berthynas ddwy ffordd, gyda Cymru’r Dyfodol yn cymryd eu cyfeiriad strategol ac yn darparu ffordd o fynd ati a fframwaith ar gyfer manteisio i’r eithaf ar ganlyniadau cadarnhaol posibl. Wrth i strategaethau a pholisïau eraill gael eu hadolygu a'u diweddaru byddant yn adlewyrchu ac yn ystyried y blaenoriaethau gofodol a nodir yn Cymru’r Dyfodol.

Mae ein system gynllunio yn cael ei harwain gan gynllun datblygu. Rhaid paratoi cynlluniau datblygu ar raddfeydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gyda'r tair haen ar y cyd yn cynnwys 'y cynllun datblygu'. Fel y strategaeth ofodol genedlaethol, mae Cymru’r Dyfodol yn darparu'r haen genedlaethol ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynlluniau datblygu strategol a lleol. Bydd Cymru’r Dyfodol yn helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau datblygu strategol rhanbarthol drwy'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig newydd (a gyflwynwyd o dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol 2021). Bydd cefnogi gwaith rhanbarthol cryfach yn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol ganolbwyntio ar faterion lleol. Bydd Cymru’r Dyfodol ei hun yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu strategol a lleol. Felly bydd angen treulio llai o amser yn llunio papurau cefndir a gall mwy o amser ac ymdrech gael eu neilltuo i drafodaethau â chymunedau a datblygwyr a'r gwaith pwysig o wneud lleoedd gwell yn lleol.

Mae Cymru’r Dyfodol hefyd yn hanfodol er mwyn helpu i lywio'r adferiad wedi pandemig COVID-19, fel y nodir yn Adeiladu Lleoedd Gwell (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020). Mae'r polisïau gofodol yn cefnogi twf mewn dinas-ranbarthau, trefi a chymunedau arfordirol sy'n bwysig yn rhanbarthol ledled Cymru (y math o leoedd y mae’r ymchwil yn awgrymu a allai ddioddef yn economaidd o ganlyniad i COVID-19) ac ardaloedd gwledig cryf a chadarn. Drwy Cymru’r Dyfodol bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cynlluniau cynaliadwy sy'n helpu ardaloedd i adfer, bod yn fwy cadarn a ffynnu yn dilyn y pandemig hwn.

Mae Cymru’r Dyfodol yn adeiladu ar Polisi Cynllunio Cymru sef dogfen polisi cynllunio defnydd tir Cymru a sylfaen yr holl bolisïau cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae dyfodiad Cymru’r Dyfodol fel cynllun datblygu cenedlaethol wedi golygu bod angen diwygio Polisi Cynllunio Cymru er mwyn sicrhau bod cynnwys y ddwy ddogfen yn cyd-fynd. Yn benodol, mae rhywfaint o'r cyd-destun polisi yn Polisi Cynllunio Cymru wedi'i egluro a'i wneud yn fwy clir i gefnogi polisïau yn Cymru’r Dyfodol. Mae newidiadau eraill i Polisi Cynllunio Cymru yn ffeithiol yn y bôn, gan adlewyrchu diweddariadau i ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau sy'n effeithio ar y system gynllunio a newidiadau i’r polisi cynllunio sydd wedi'u gwneud ers cyhoeddi'r rhifyn blaenorol. O ganlyniad, mae’r rhifyn newydd o Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae cyhoeddi Cymru’r Dyfodol hefyd yn nodi cychwyn ei weithredu. Fel camau cyntaf, bydd swyddogion yn cyfarfod â phob awdurdod lleol i drafod Cymru’r Dyfodol, a byddwn yn paratoi canllawiau ar bynciau penodol i gefnogi'r broses o'i weithredu a sefydlu'r broses fonitro.

Mae Cymru’r Dyfodol yn newid sylweddol i'n system gynllunio. Rwy'n ddiolchgar i'r ystod eang o unigolion, sefydliadau, rhanddeiliaid, busnesau, elusennau a grwpiau buddiant sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygu drwy'r ymarferion ymgynghori cyhoeddus helaeth. Mae'r gwaith craffu manwl gan y Senedd hefyd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr. Edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu â'n partneriaid wrth weithredu Cymru’r Dyfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ym mhob rhan o'n gwlad.