Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hawliau dynol, cydraddoldeb, undod ac urddas yn werthoedd craidd yng nghymdeithas Cymru, a chânt eu hadlewyrchu yn ein setliad cyfansoddiadol a'n cyfreithiau. Ein cred greiddiol yw bod gan bob un ohonom hawliau dynol, fel y'i crynhowyd yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Rydym yn cydnabod bod yr egwyddorion a'r gwerthoedd hynny yr un mor bwysig heddiw ag yr oeddent bryd hynny. Mae ein safbwynt modern yn cael ei adlewyrchu yn Neddfau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Llywodraeth Cymru sy'n sicrhau bod cyfle cyfartal, hawliau dynol a lles yn cael y lle canolog wrth lunio polisïau, nawr ac i'r dyfodol.

O fewn y cyd-destun hwn, rydym heddiw yn lansio Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol Llywodraeth Cymru 2025 – 2029 Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol Llywodraeth Cymru 2025 – 2029 . Mae'r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn chwarae rôl gydlynol o ran canoli a thynnu ynghyd ein hymrwymiad i fwrw ymlaen â'n Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'n Nod Hirdymor – mae Cymru yn genedl sy'n dilyn egwyddorion tegwch, cynhwysiant a brwydro yn erbyn gwahaniaethu, drwy gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol pawb, a sut y gallant arfer yr hawliau hynny.

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn tynnu ynghyd ymrwymiadau sydd eisoes yn bodoli o ran cydraddoldeb a hawliau dynol o fewn fframwaith cydlynol ac integredig, gan ganiatáu ar yr un pryd i gamau mwy pwrpasol gael eu sbarduno gan Gynlluniau Gweithredu sy'n canolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar grwpiau penodol sydd â nodweddion gwarchodedig.

Mae'r Cynlluniau Gweithredu hyn yn cynnwys Cymru Wrth-hiliolCynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ynghyd â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n destun ymgynghoriad. Mae pob un o'n cynlluniau yn cynnwys camau gweithredu penodol a fydd yn cyfrannu at gyflawni ein Nod Hirdymor a'n Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol sydd, yn eu tro, yn canolbwyntio ar wella bywydau a chyfleoedd y rhai sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf yng Nghymru. 

Mae'r pwyslais o fewn y Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb a hawliau dynol yn fwy effeithiol ar draws Llywodraeth Cymru, a fydd, yn ei dro, yn sicrhau'r canlyniadau gwell yr ydym wedi ymrwymo iddynt.

Mae eleni yn nodi 15 mlynedd ers rhoi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r camau mawr a gymerwyd i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb yn y DU, sy'n cael ei yrru gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Rydym yn benderfynol fel llywodraeth o wneud bywyd yn well i bawb, gan ddarparu cyfle cyfartal a chanlyniadau gwell. Mae'r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn un ffordd yr ydym yn gwneud hyn yn realiti nawr ac i'r dyfodol.

Gofynion Statudol 

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn ymwneud â chyflawni'r gofyniad statudol i gyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024 i 2028 sy'n gysylltiedig â Chynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol (y Cynllun Cydraddoldeb Strategol gynt).  Mae'r ddyletswydd i gyhoeddi amcanion cydraddoldeb wedi'i nodi yn rheoliad 3 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, a wnaed o dan adran 153 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hamcanion cydraddoldeb, "yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol", ar 18 Mawrth 2024.