Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ysgrifennu at yr Aelodau a'u diweddaru ar y broses o gyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Arloesedd.

Ym mis Chwefror, gwnaethom gyhoeddi Strategaeth Arloesi newydd: Cymru'n Arloesi a oedd yn tynnu sylw at ddull gwahanol o ymdrin ag arloesedd. Mabwysiadodd ddull gweithredu sy’n seiliedig ar genhadaeth, gan hyrwyddo cydweithio amlddisgyblaethol ac arferion gorau wrth gyd-fynd â nodau ein Rhaglen Lywodraethu.

Bryd hynny, ymrwymais i gyhoeddi Cynllun Cyflawni Arloesedd a fyddai'n rhoi grym pellach i'r holl randdeiliaid weithio ar y cyd tuag at nodau a rennir ar gyfer arloesedd, yn ogystal â denu buddsoddiad ar gyfer prosiectau o ffynonellau allanol, fel Llywodraeth y DU, lle mae gennym amcanion cyffredin.

Mae'r cynllun hwnnnw bellach wedi'i gwblhau. Gan gydweithio ar draws y Llywodraeth, ac yn unol a'r ymrwymiadau a wnaed yn y cytundeb cydweithio gyda Plaid Cymru, mae gan y cenadaethau yn y Strategaeth gamau gweithredu a cherrig milltir bellach sy'n cyd-fynd â'r Cynllun. Mae ymrwymiadau sylfaenol hefyd i gydraddoldeb daearyddol a demograffig ochr yn ochr â'r ffordd gydgysylltiedig o weithio. Mae'n rhaid i bawb yng Nghymru rannu manteision arloesedd. 

Fel gyda'r Strategaeth, mae'r Cynllun wedi'i gynllunio i fod yn ddogfen fyw a fydd yn esblygu wrth i gamau gael eu cymryd a chyfleoedd a blaenoriaethau newydd yn dod i'r amlwg.

Rydym eisoes wedi dechrau creu'r cyfleoedd hyn. Ym mis Ebrill, llofnododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Innovate UK. Roedd hyn yn arwydd o ymdrech gydgysylltiedig i hyrwyddo a datblygu cynigion arloesi o ansawdd uchel ar draws ystod o randdeiliaid, sectorau a rhanbarthau er mwyn cefnogi Cymru i gynyddu ei chyfran o gyllid sy'n cael ei ddyfarnu'n gystadleuol.

Dilynwyd hyn gan Gynllun Arloesedd Cydweithredol, a gyhoeddwyd ddoe, a ddatblygwyd gydag Innovate UK, a hwn yw'r cynllun cyntaf gyda chenedl ddatganoledig. 

Mae'r cyhoeddiad diweddar y bydd y DU yn ailymuno â chynllun ymchwil gwyddonol blaenllaw'r UE, Horizon Europe hefyd yn agor cyfleoedd i randdeiliaid Cymru gymryd rhan mewn gwaith Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cydweithredol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn lle bynnag y bydd hynn'n cyflawni yn erbyn yr ymrwymiadau a'r uchelgeisiau yn strategaeth Cymru'n Arloesi a'r Cynllun Cyflawni.

Byddwn yn adolygu cynnydd y Cynllun ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, gan edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi newid a sut mae ein hecosystem yn symud i ffwrdd oddi wrth gyllid uniongyrchol yr UE tuag at fodel Ymchwil, Datblygu ac Arloesi mwy dylanwadol a chystadleuol.

Yn ogystal, byddwn yn cynnal gwerthusiadau strwythuredig ym mlynyddoedd tri a phump i ystyried lle mae canlyniadau mesuradwy, sy'n gysylltiedig â’n cenadaethau a’n nodau, wedi cael eu cyflawni a'r hyn y gallwn ei wneud yn well.

Drwy ein Strategaeth Arloesi a'n Cynllun Cyflawni ein nod yw creu dyfodol deinamig i ni ein hunain, lle drwy weithio gyda'n gilydd, arloesi a defnyddio technolegau newydd, gallwn gefnogi Cymru wyrddach, sy'n iachach ac yn darparu swyddi gwell a ffyniant i bawb.