Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Mai eleni, lansiais Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru 2022 to 2026. Amlinellodd y cynllun hwn ein blaenoriaethau polisi strategol ar gyfer anabledd dysgu strategol am weddill y tymor llywodraethu presennol.

Yn ystod fy natganiad llafar, gwnes ymrwymiad i ddatblygu Cynllun Cyflawni a Gweithredu cysylltiedig a fyddai'n nodi'r gweithgareddau manwl a fyddai'n sail i gyflawni'r blaenoriaethau polisi strategol yn llwyddiannus a darparu’r deilliannau y tynnwyd sylw atynt yn y cynllun gweithredu strategol.

Yn dilyn cydweithio a chyd-greu helaeth â rhanddeiliaid a phartneriaid ledled y cyhoedd a'r trydydd sector, gan gynnwys ymgysylltu â phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, a gofalwyr, rwy'n falch o gyhoeddi'r Cynllun Cyflawni a Gweithredu ar gyfer Anabledd Dysgu 2022-2026.

Mae'r cynllun hwn unwaith eto yn canolbwyntio ar helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw bywydau prysur, iach fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae'n cynnwys ein hymrwymiadau i weithio gydag unigolion, grwpiau, a darparwyr gwasanaethau i ddatblygu a gweithredu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu yn llawn, gan gydnabod yr heriau parhaus rydym i gyd yn eu hwynebu wrth inni barhau i ddod oddi tan gysgod effaith a goblygiadau pandemig Covid, tra’n gweithio ar yr un pryd i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw presennol.

Mae'r gwaith hwn wedi cael ei lywio gan y cyfleoedd diweddar a gefais i gwrdd a sgwrsio ag unigolion sydd â phrofiad bywyd o anabledd dysgu a’r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Mae clywed o lygad y ffynnon sut mae'r penderfyniadau rydym ni'n eu gwneud a'r polisïau rydym ni'n eu cefnogi'n effeithio ar bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd, wedi bod yn addysgiadol ac yn amhrisiadwy a byddaf yn parhau iachub ar pob cyfle a gaf i gwrdd â rhanddeiliaid ac i drafod y materion sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.

Mae'r 'cynllun byw' hwn wedi'i gynllunio'n benodol i fod yn hyblyg, er mwyn sicrhau y gallwn addasu'n gyflym ac yn effeithiol i newidiadau mewn amgylchiadau neu i flaenoriaethau newydd. Bydd y Cynllun Cyflenwi a Gweithredu felly yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gan fy swyddogion.

O ystyried cyfrifoldebau fy mhortffolio, yn naturiol mae ffocws penodol ar gamau blaenoriaeth ym meysydd y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Fodd bynnag, mae nifer o gamau pwysig i’w gweithredu hefyd mewn ystod eang o feysydd polisi gan gynnwys Addysg a Hyfforddiant, Cyflogaeth a Sgiliau, Plant a Phobl Ifanc, Tai a Thrafnidiaeth.

Bydd y cynllun cyflenwi yn helpu i gyflawni ymrwymiadau yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau rydym yn eu hwynebu a gwella bywydau pobl ledled Cymru, gan adlewyrchu ein gwerthoedd, sef cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a'r nod llesiant rydym wedi’i ddatgan,  i ddathlu amrywiaeth a chael gwared ar anghydraddoldeb o bob math

Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at gyflawni ein nodau llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru lewyrchus, fwy cyfartal a chymunedau cydlynus. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu drwy gymhwyso'r ffyrdd cynaliadwy o weithio yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn enwedig y meysydd â blaenoriaeth sy'n ceisio defnyddio dull ataliol ac integreiddio gwasanaethau'n well.

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ethos y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gan fod nifer o'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi’n adlewyrchu y nodau a rennir gennym o ran lleihau'r anghydraddoldebau a brofir gan lawer o bobl Cymru.

Byddaf yn gweithio'n agos gyda’r Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu (LDMAG) a fydd yn monitro cyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun a byddaf yn cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol ar ei gyflawniadau. Bydd y Grŵp Cynghori hefyd yn arwain adolygiad ffurfiol o'r Cynllun Gweithredu Strategol a'r Cynllun Cyflawni a Gweithredu yn ystod gwanwyn 2024, er mwyn sicrhau bod y cynnydd wrth gyflawni ein blaenoriaethau polisi yn cael ei gynnal er mwyn gwella bywydau pobl sydd ag anableddau dysgu ledled Cymru.