Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Huw Irranca-Davies, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) yn un o'r 10 bygythiad iechyd byd-eang sy'n wynebu dynoliaeth. Amcangyfrifir y gallai 10 miliwn o bobl farw bob blwyddyn o ganlyniad i AMR erbyn 2050. 

Yn 2019, ymrwymodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â llywodraethau eraill y DU, i weledigaeth 20 mlynedd ar gyfer cyfyngu ar AMR a'i reoli erbyn 2040. Mae gwneud yn siŵr bod gwrthfiotigau yn parhau i fod yn effeithiol yn hanfodol i'n nod o sicrhau Cymru iachach, sef un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae AMR yn digwydd pan fydd organebau sy'n achosi haint yn esblygu ffyrdd o oroesi triniaeth ac yn dangos ymwrthedd i'r meddyginiaethau (gwrthfiotigau a gwrthficrobau) yr ydym wedi'u datblygu dros nifer o flynyddoedd i drin heintiau o'r fath. Er bod ymwrthedd yn digwydd yn naturiol, mae'r defnydd amhriodol o wrthficrobau mewn meddyginiaethau ar gyfer anifeiliaid a phobl, ac mewn planhigion a chnydau, ochr yn ochr â chysylltiad anfwriadol, yn golygu ei fod yn datblygu ac yn lledaenu'n gyflymach. 

Mae lledaeniad AMR yn arwain at ymddangosiad cenhedlaeth newydd o 'archfygiau' fel y'u gelwir. Os bydd hyn yn parhau i ddigwydd yn ddi-rwystr, ni fydd y gwrthfiotigau rydym yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd i achub bywydau a thrin heintiau yn gweithio yn y dyfodol. 

Mewn dyfodol lle mae gwrthfiotigau a gwrthficrobau yn aneffeithiol, byddai llawdriniaethau arferol yn rhy beryglus i'w cyflawni a byddai cemotherapi yn driniaeth risg uchel iawn. 

Fel rhan o weledigaeth 20 mlynedd y DU i herio a mynd i'r afael ag AMR, mae pob un o'r pedair gwlad wedi ymrwymo i ddatblygu cyfres o gynlluniau gweithredu cenedlaethol pum mlynedd i flaenoriaethu camau gweithredu a neilltuo adnoddau i'r meysydd sydd â'r risg uchaf. Y cyntaf o'r rhain oedd cynllun gweithredu cenedlaethol 2019-24. Yng Nghymru, fe wnaethom gyflwyno rhaglen waith eang, a arweiniodd at: 

  • Sicrhau, am y tro cyntaf, ddata yn ymwneud â defnydd gwrthfiotigau yn y sectorau llaeth, cig eidion a defaid
  • Gweithio mewn partneriaeth tuag at lai o ddefnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd drwy brosiect Arwain DGC, a dderbyniodd gydnabyddiaeth yma yn y DU ac ar draws y byd
  • Darparu canllawiau ar bresgripsiynu gwrthficrobaidd ar gyfer gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd drwy ddull cydweithredol gyda fferyllwyr ar draws y GIG yng Nghymru
  • Datblygu'r llyfrgell ddata gwrthficrobaidd i ddarparu mynediad rhyngweithiol at ddata yn ymwneud â defnydd o wrthficrobau ac ymwrthedd iddynt ar gyfer y GIG yng Nghymru ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. 

Heddiw, ynghyd â llywodraethau eraill y DU, rydym yn cyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol 2024-29. Mae'n cynnwys naw canlyniad strategol a drefnir o dan bedair thema:

  • Lleihau'r angen am wrthficrobau, a lleihau'r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad anfwriadol â nhw
  • Defnyddio gwrthficrobau yn y ffordd orau bosibl 
  • Buddsoddi mewn arloesi, cyflenwi a mynediad 
  • Bod yn bartner byd-eang da. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â bygythiad AMR fel rhan o'i dull Iechyd Cyfunol. Nod y dull hwn yw cydbwyso a gwella iechyd pobl, anifeiliaid, ecosystemau a'r amgylchedd ehangach, gan gydnabod bod cysylltiad agos rhyngddynt a'u bod yn dibynnu ar ei gilydd. Bydd y rhaglen waith yn cynnwys cydweithio ar draws pob sector (iechyd pobl, iechyd anifeiliaid a'r amgylchedd). Bydd y trefniadau llywodraethu ar gyfer rhaglen waith Cymru yn cysylltu â rhaglen ehangach y DU i fonitro'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau ac adrodd ar gynnydd yn flynyddol.

Mae llwyddiant yn dibynnu ar amrywiaeth eang o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at y cynnydd a wnaed o dan y cynllun gweithredu cenedlaethol blaenorol. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cynnydd hwn gyda'n gilydd dros y pum mlynedd nesaf.