Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2023-24. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut y byddwn yn parhau i weithredu amcanion strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu’r camau sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith 2021-2026 Cymraeg 2050, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf y llynedd yn ogystal â’n Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24 er mwyn gweithredu’r ddau brif darged a ganlyn:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050.

Wrth gyhoeddi’r Cynllun hwn ar gyfer 2023-24, rydym wrthi’n dadansoddi data Cyfrifiad 2021 ym maes y Gymraeg. Ond, mae rhagor o ganlyniadau i ddilyn yn ystod y misoedd nesaf, er enghraifft, am drosglwyddo’r Gymraeg rhwng cenedlaethau a’r Gymraeg yn ôl nodweddion eraill megis rhyw ac ethnigrwydd.

Byddwn yn ystyried holl ddata’r cyfrifiad ochr yn ochr â’r data diweddaraf am y boblogaeth gyfan, ac ystod o ffynonellau data eraill, fel data ysgolion. Gyda’r wybodaeth hon, byddwn yn diweddaru’n taflwybr ystadegol tua’r miliwn ac yn adolygu’n blaenoriaethau yn ôl y galw. Ond yr un fydd ein nod – gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd y miliwn a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.