Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2024-25. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut y byddwn yn parhau i weithredu amcanion strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu’r camau sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith 2021-2026 Cymraeg 2050, yn ogystal â’n Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25 er mwyn gweithredu’r ddau brif darged a ganlyn:

  • Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050.

Eleni, byddwn yn parhau i weithredu o dan dair thema ein strategaeth iaith sef:

  • Cynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg.
  • Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Bydd ein gwaith yn digwydd ar draws amrywiol bortffolios Gweinidogol a chydag ystod eang o randdeiliaid ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Hyn oll er mwyn symud ymlaen ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r nifer ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.