Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Rydyn ni’n benderfynol o gyflwyno system addysg sy’n gwbl gynhwysol i ddysgwyr yng Nghymru. System lle bo anghenion yn cael eu canfod yn gynnar, lle bo proses yn ei lle i fynd i’r afael â’r anghenion hynny yn gyflym a lle bo pob dysgwr yn cael cymorth i gyflawni ei botensial. Rydyn ni am i’r gwaith cynllunio fod yn hyblyg ac ymateb i’r anghenion dan sylw ac rydyn ni am i’n gweithwyr proffesiynol fod yn fedrus yn eu gwaith ac yn hyderus.

Eleni, caiff y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Nod y Bil yw creu fframwaith cyfreithiol unedig i Gymru a fydd yn rhoi lle canolog i ddysgwyr, ynghyd â’u rhieni a’u gofalwyr, yn y broses o ganfod eu hanghenion a chynllunio i fynd i’r afael â’r anghenion hynny.

Un agwedd yn unig ar ein Rhaglen Trawsnewid ehangach yw’r ddeddfwriaeth newydd a’r canllawiau statudol, er bod hynny’n elfen gwbl sylfaenol. Bydd y diwygiadau yn effeithio ar bob ysgol ac ystafell ddosbarth yng Nghymru felly byddwn yn gweithio gyda’r gweithlu i sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau i roi cymorth effeithiol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu rôl y Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a fydd yn disodli’r Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig. Mae system genedlaethol o gynllunio’r gweithlu hefyd wrthi’n cael ei datblygu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymorth arbenigol ar gael i leoliadau addysg ledled Cymru.

Gwyddom y bydd heriau a chyfleoedd yn codi yn sgil y bwriad i drawsnewid ar y raddfa hon ac rydyn ni’n gwbl ymrwymedig i gefnogi ein partneriaid cyflenwi i baratoi ar gyfer y trawsnewid mewn nifer o ffyrdd.

Mae’n dda gennyf gyhoeddi Cronfa Arloesi ADY newydd gwerth £2.1 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf gyda’r bwriad o gefnogi prosiectau gan bartneriaethau rhanbarthol a fydd yn cynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, darparwyr arbenigol, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a’r trydydd sector. Bwriad yr arian yw targedu’r gwaith o ddatblygu modelau ac arferion creadigol a chydweithredol a fydd yn gwella systemau, trefniadau a chysylltiadau.

Wrth i ni symud tuag at y cyfnod gweithredu, bydd y rhaglen yn cynnig arian pellach ar ffurf grant i bartneriaid cyflenwi a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, byrddau iechyd lleol a’r Tribiwnlys. Bydd y grantiau yn gymorth i sefydliadau lunio cynlluniau gweithredu lleol, ymgymryd â hunanasesiadau i fesur eu ‘parodrwydd’ a chynnig hyfforddiant ar y system newydd. Byddwn yn penodi tîm bychan o gynghorwyr strategol i gefnogi partneriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y trawsnewid i’r system ADY newydd a rheoli’r broses. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am y pecyn o gymorth ariannol maes o law yn dilyn cyhoeddi cyllideb ehangach Llywodraeth Cymru.

Mae ein camau gweithredu’n cael eu datblygu ar y cyd â’n partneriaid cyflenwi allweddol drwy’r Grŵp Gweithredu Strategol ADY a nifer o Grwpiau Arbenigol sy’n ystyried yn fanwl nifer o faterion technegol ynghylch cyflwyno’r system newydd. Byddaf yn parhau i holi am farn ein partneriaid ynghylch yr opsiynau trawsnewid drwy ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn y Flwyddyn Newydd.

Er ein bod yn awyddus i weld trawsnewid yn digwydd nawr o ran diwylliant ac arferion, mae yna ddyletswyddau cyfreithiol y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig, barhau i gydymffurfio â hwy am y tro. Rhaid iddynt hefyd barhau i ystyried Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Yn y pen draw, drwy weithio gyda’n gilydd y gwnawn ni greu system addysg gynhwysol a theg lle caiff pob dysgwr y cymorth sydd ei angen arno i oresgyn y rhwystrau i ddysgu a chymryd rhan a chyflawni ei botensial llawn.