Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i heddiw i gyhoeddi Cynllun Gweithredu'r Cyfnod Sylfaen, sy'n amlinellu dull cenedlaethol er mwyn parhau i wella'r ffordd y caiff cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant tair i saith oed ei weithredu a’i gyflawni yn ein hysgolion a'n meithrinfeydd.

Wrth gyhoeddi'r cynllun hwn, rydym yn pwysleisio ein hymrwymiad i ddarparu’r Cyfnod Sylfaen fel y’i nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen.

Rwy'n hynod o falch o'r Cyfnod Sylfaen a'i ddulliau dysgu ac addysgu, ac mae ymarferwyr wedi dweud mai dyma un o gryfderau mawr ein system addysg bresennol yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth sy'n deillio o waith gwerthuso annibynnol yn dangos, pan caiff cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ei ddarparu'n dda, bod gan bob plentyn lefel cyrhaeddiad uwch, a bod gwelliannau i’w gweld ym mhresenoldeb cyffredinol yr ysgol, llythrennedd, rhifedd a lles y disgyblion. Mae nifer o enghreifftiau ar draws Cymru yn dangos bod y Cyfnod Sylfaen yn llwyddo. Mae angen i ni barhau i ymdrechu i sicrhau bod yr arferion da hyn yn dod yn ymddygiad cyffredin ar draws ein hysgolion a’n meithrinfeydd i gyd.

Bydd nifer o'r dulliau sylfaenol a ddefnyddir yn y Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys dysgu drwy brofiadau, yn cael eu defnyddio ar draws y cwricwlwm newydd i gyd. Felly, mae'n bwysig ein bod yn parhau i wella dulliau addysgu a dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, fel ein bod yn gallu adeiladu'r cwricwlwm newydd ar sylfaen gadarn o arferion da.

Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu gyda grŵp eang o randdeiliaid dan arweiniad Grŵp Arbenigol ac mae'n nodi'r camau allweddol sydd angen eu cymryd mewn perthynas ag agweddau y mae angen inni ganolbwyntio arnynt, yn ôl yr ymchwil Nid yw'n syndod mai un o feysydd allweddol y cynllun yw sicrhau bod athrawon ac ymarferwyr eraill sy'n gweithio yn y Cyfnod Sylfaen yn gallu manteisio ar y cyfleoedd datblygu sydd eu hangen arnynt i fod yn ymarferwyr rhagorol.

Mae'n amser cyffrous i addysg yng Nghymru. Mae ein diwygiadau wedi rhoi momentwm newydd i addysg yng Nghymru, ac mae'n canolbwyntio ar godi safonau yn gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle, drwy gwricwlwm addas, i feithrin y sgiliau a chael yr wybodaeth sydd ei hangen i fod yn ddysgwyr gydol oes. Bydd angen inni wneud hyn o oedran ifanc, a dyna pam y bydd y Cyfnod Sylfaen yn parhau i fod yn faes pwysig ar gyfer y llywodraeth hon.

Mae Cynllun Gweithredu'r Cyfnod Sylfaen wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn Welsh: http://llyw.cymru/topics/educationandskills/earlyyearshome/foundation-phase/action-plan?lang=cy