Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Degawd o ymrwymiad i gynhwysiant a chydraddoldeb yng Nghymru
Mae heddiw yn garreg filltir yn ein hymrwymiad i feithrin Cymru wirioneddol gynhwysol a chyfartal, gan ein bod yn falch i lansio Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025-2035 – glasbrint mentrus i ysgogi newid parhaol, sydd wedi'i lunio gan bobl anabl. Nid dim ond dogfen yw'r Cynllun hwn, mae'n ymrwymiad deng mlynedd i hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb i bob plentyn ac oedolyn anabl ledled ein cenedl.
Rydym hefyd yn cael ein harwain gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy'n cynnwys yr hawl i fyw'n annibynnol ac yn nodi mesurau ar gyfer amddiffyniad cymdeithasol. Mae'r Confensiwn yn cydnabod hawl pob person anabl i gael safon byw briodol iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd, ac i fwynhau'r hawl honno heb wahaniaethu.
Diolch i bawb a gefnogodd ddatblygu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drwy'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a’i weithgorau a'i argymhellion, ac yn enwedig i’r Athro Debbie Foster am ei harweinyddiaeth gref a dylanwadol fel cyd-gadeirydd y Tasglu.
Ar 15 Mai, lansiais ymgynghoriad 12 wythnos ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth adborth amhrisiadwy i law a oedd yn dathlu cryfderau'r Cynllun ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau pellach. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at bwysigrwydd sefydlu dulliau clir i fesur yr effaith, gwella'r ffocws ar gynhwysiant digidol i bobl anabl, cydnabod cyfraniadau sylweddol rhieni a gofalwyr yn llawnach, a sicrhau bod gweithio gyda phobl anabl yn parhau i fod yn ganolog.
Mae cadw golwg da ar y cynnydd yn hanfodol i roi'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar waith. Felly, rydym yn bwrw ymlaen i sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol ar gyfer Pobl Anabl, a fydd yn ddylanwadol ac yn annibynnol. Bydd y Bwrdd hwn yn helpu i lunio'r Cynllun, monitro ei gynnydd, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael yr effaith fwyaf posibl. Bydd yn gweithredu fel cysylltiad hanfodol rhwng pobl anabl, gwneuthurwyr penderfyniadau, a darparwyr gwasanaethau.
Er mwyn sicrhau cynnydd ystyrlon i bobl anabl, mae'n hanfodol ein bod ni a gweinyddiaethau'r dyfodol yn cael ein dal i gyfrif am gyflawni camau gweithredu a chanlyniadau clir a mesuradwy sy'n gwella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru. Rhaid i dryloywder fod yn sail i bob cam o'r broses weithredu, gan sicrhau bod dulliau cadarn ar waith i fonitro'r cynnydd ac adrodd arno.
Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd yn ôl yn 2002, gan wneud ymrwymiad clir i gydnabod bod anabledd yn cael ei greu gan rwystrau o fewn cymdeithas. Dros ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae'r ymrwymiad hwnnw'n parhau i fod yn rhan annatod o’n gwaith heddiw, ac mae'n cael ei adlewyrchu yn ymdrechion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'n Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod bod cymdeithas yn symud yn gyflym tuag at wasanaethau digidol yn gyntaf ac at ddefnydd cynyddol o brynu a gwerthu heb arian parod. Ni welwyd erioed gymaint o angen am dechnoleg ddigidol hygyrch a ffordd o gynllunio gwasanaethau sy'n rhoi anghenion y cwsmer yn gyntaf sydd hefyd yn cynnwys llwybrau nad ydynt yn ddigidol. Mae pobl anabl yn wynebu rhwystrau unigryw wrth ddefnyddio platfformau digidol mewn perthynas â theithio, tai, addysg, gofal iechyd neu wasanaethau ariannol, yn enwedig wrth i opsiynau arian parod traddodiadol leihau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y trawsnewid digidol yng Nghymru yn wirioneddol gynhwysol – gan ddarparu rhyngwynebau hygyrch, fformatau amgen, a chymorth cadarn i bob defnyddiwr. Rhaid i hygyrchedd fod yn egwyddor graidd, nid yn ôl-ystyriaeth, wrth inni lunio dyfodol digidol ein cenedl.
Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn dangos ein huchelgais cyffredin ar gyfer Cymru fwy cynhwysol, cyfartal a gwydn. Ond mae ei lwyddiant yn dibynnu ar ymrwymiad parhaus yr holl randdeiliaid – gwneuthurwyr polisi, eiriolwyr, darparwyr gwasanaethau, a'r cyhoedd ehangach. Rwy'n annog pawb i gofleidio gwerthoedd hygyrchedd, cynhwysiant a chydgynhyrchu yn eu gwaith.
Rwy'n parhau i fod yn gadarn yn fy ymrwymiad i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan yn llawn ac yn gyfartal ym mhob agwedd ar gymdeithas Cymru – yn rhydd o rwystrau a gwahaniaethu. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, bydd ein hymgyrch eleni, sef Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi, yn rhoi sylw i bobl anabl yng Nghymru, fel un o brif gynulleidfaoedd targed yr ymgyrch – er mwyn sicrhau bod pawb yn hawlio popeth y mae ganddynt yr hawl iddo. Bydd hyn yn cynnwys taliad costau byw o £100 i bobl o dan Gynllun Gostyngiad Band y Dreth Gyngor i Bobl Anabl sydd hefyd yn hawlio gostyngiad treth gyngor. Mae hyn wedi'i gynllunio yn unol â'n Siarter Budd-daliadau Cymru.
Gadewch inni symud ymlaen, mewn undod, o ran ein penderfyniad i gyflawni'r addewid deng mlynedd hwn ac i adeiladu Cymru lle mae pob person anabl nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu, gan fwynhau hawliau teg, amddiffyniadau cymdeithasol, a'r gallu i arwain a llywio dyfodol Cymru, gan gynnwys dylanwadu arno.
