Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd o ran cyflwyno’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Menywod. Mae'r diweddariad hwn yn cyd-daro â chyhoeddi ein Cynlluniau Gweithredu diweddaraf, ac amlygir y cynnydd a wnaed hyd yma a'n hymrwymiad parhaus i gyflwyno ein blaenraglen waith ar ddiogelwch cymunedol.

Rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar raglen y Glasbrintiau ym mis Tachwedd 2021. Mae'n bleser gennyf yn awr allu rhoi gwybod ichi am ein cynnydd parhaus wrth gyflwyno’r rhaglen bwysig hon. Ymhlith yr enghreifftiau y mae:

-         Sefydlu fframwaith hyfforddi ar gyfer staff sy'n gweithio gyda menywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol. Mae'r pecyn hyfforddi amlasiantaeth pwrpasol hwn ar gyfer y Glasbrint, sy’n ystyriol o rywedd a thrawma, yn cael ei gyflwyno i bob asiantaeth sy'n gweithio yn y maes cyfiawnder troseddol.

-         Mae gwaith yn parhau ar weithredu Mentrau Dargyfeirio i fenywod ledled Cymru fel rhan o’r Cynllun Braenaru i Ferched. Mae gwasanaethau dargyfeirio ar waith ar gyfer menywod ym mhob un o’r pedair ardal heddlu yng Nghymru. Mae ardaloedd heddluoedd De Cymru a Gwent hefyd yn cynnal cynllun peilot Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys, gyda'r nod o wella ac ehangu cyfleoedd dargyfeirio i droseddwyr lefel isel sy'n aildroseddu.                                                                            

-         Rydym wedi dechrau atgyfeirio unigolion at Wasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig y Glasoed Cymru Gyfan er mwyn elwa ar Reoli Achosion Uwch. Mae trefniadau Rheoli Achosion Uwch ar gael i bob Tîm Troseddau Ieuenctid yng Nghymru i’w defnyddio gyda phlant sydd mewn cysylltiad â Thimau Troseddau Ieuenctid, boed hynny ar sail wirfoddol neu statudol.

-         Mae adroddiad gwerthuso Braenaru ‘y plentyn yn gyntaf’ wedi’i gyhoeddi gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal Ceredigion. Defnyddir y canfyddiadau i lywio'r gwaith o ddatblygu Fframwaith Atal Cyfiawnder Ieuenctid i Gymru.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd lleoliad y Ganolfan Breswyl i Fenywod yng Nghymru. Mae hon yn elfen allweddol o'n Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Menywod[1]. Rydym wedi ymgysylltu'n agos â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid allweddol eraill wrth ei datblygu, a gallaf gadarnhau y bydd y ganolfan newydd wedi'i lleoli yn y Cocyd ger Abertawe. Bydd y Ganolfan Breswyl i Fenywod yn gwella bywydau menywod yng Nghymru, gan gynnig dull mwy holistaidd, sy’n ystyriol o drawma, o ddarparu gwasanaethau i fenywod a allai ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae’n bwysig nodi hefyd fod y ganolfan yn mynd i alluogi menywod i aros yn agosach i'w cartrefi a meithrin y berthynas hanfodol sydd rhyngddynt ag aelodau o’u teuluoedd, yn enwedig eu plant.

Rwy’n cydnabod ein bod yn ddyledus i’n partneriaid am eu cefnogaeth ddiwyro er mwyn ein galluogi i wireddu datblygiadau pwysig fel y Ganolfan Breswyl i Fenywod, yn ogystal â’r gweddill y cyfeiriwyd atynt hefyd yn y datganiad hwn. Rwy’n ddiolchgar i’n partneriaid am y gefnogaeth hon. Er bod cyfiawnder yn dal i fod yn fater a gedwir yn ôl ar hyn o bryd, byddwn yn parhau â'r dull cydweithredol hwn o ddatblygu ein hymrwymiadau i leihau troseddu ac aildroseddu.

Hoffwn hefyd sicrhau'r Aelodau y byddaf yn parhau i gwrdd â Gweinidogion Cyfiawnder y DU i drafod y gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r Glasbrintiau a materion cyfiawnder ehangach, a datblygu’r gwaith hwn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd.

[1] Arferai gael ei adnabod fel y Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd.