Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr y DU a Siapan (CEPA) ei lofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol a Gweinidog Tramor Siapan yn Tokyo ar 23 Hydref.  Y cytundeb yw yr un cyntaf i gael ei gwblhau gan y DU fel gwlad fasanachu annibynnol.  

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein hasesiad o’r CEPA ar ein tudalennau Polisi Masnach ar y we:

https://llyw.cymru/gytundeb-partneriaeth-economaidd-cynhwysfawr-cepa-y-du-japan-asesiad-llywodraeth-cymru

Mae’r adroddiad yn cynnig sylwadau a dadansoddiad o effaith bosibl CEPA yn y tymor byr a hir ar economi Cymru.  Rwy’n gobeithio y bydd y dadansoddi a’r wybodaeth sy’n canolbwyntio ar Gymru yn yr adroddiad o gymorth i Aelodau’r Senedd, busnesau a dinasyddion graffu ar y cytundeb.