Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn diweddaru'r Senedd ar y data allyriadau nwyon tŷ gwydr diweddaraf ar gyfer Cymru.  

Mae'r data allyriadau tiriogaethol a ryddhawyd yr wythnos hon gan y Rhestr Genedlaethol Allyriadau Atmosfferig (Adroddiadau – NAEI, y DU (beis.gov.uk) (dolen allanol - Saesneg yn Unig) yn dangos yn 2021, yr amcangyfrifwyd bod cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cyfateb â 36.3 miliwn tunnell o garbon deuocsid (CO2), gostyngiad o 35% o'i gymharu ag allyriadau'r flwyddyn sylfaen[1] a chynnydd o 7% o gymharu â 2020. Er gwaethaf y cynnydd rhwng 2020 a 2021, roedd allyriadau Cymru yn 2021 6% yn is na'r lefelau cyn y pandemig yn 2019. Mae rhan fwyaf y cynnydd yn 2021 o ganlyniad i gynnydd mewn allyriadau o orsafoedd pŵer, cynhyrchu haearn a dur, a thrafnidiaeth ffyrdd, sy'n gyson â’r adfywio economaidd yn dilyn pandemig COVID-19.

Mae'r data crai a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn darparu'r dystiolaeth gyntaf o berfformiad yn erbyn ail garbon Cymru (2021-25). Mae'r ail gyllideb garbon wedi'i gosod ar ostyngiad cyfartalog mewn allyriadau o 37% dros y cyfnod o bum mlynedd, gydag uchelgais i ragori ar y targed hwn. Mae system cyllideb carbon Cymru yn edrych ar draws cyfnodau o 5 mlynedd i asesu perfformiad yn erbyn y duedd gyffredinol mewn allyriadau. Bydd Cyfrif Allyriadau Net Cymru llawn, y mae ein targedau cyfreithiol yn seiliedig arno yn cael eu cyhoeddi yn ein Datganiad Terfynol deddfwriaethol, ar ddiwedd cyfnod Cyflawni Cyllideb Carbon 2.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn gofyn i bawb weithredu. Nawr mae'r ffocws ar ddarparu Net Sero Cymru a sicrhau'r buddion mwyaf posibl i gymunedau a natur yn y camau a gymerwn. Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ein Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd derfynol ar yr Hinsawdd, yr ymgynghorwyd arni ddiwedd 2022. Bydd hyn yn amlinellu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ffordd wyrddach o fyw sy'n deg, yn gynhwysol, ac yn cael ei gyrru gan yr egwyddor arweiniol o 'adael neb ar ôl'. Byddwn yn ymgysylltu â phobl i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn y rhan y gall y cyhoedd ei chwarae.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Alwad am Dystiolaeth Pontio Teg hefyd, a derbyniodd dros 100 o ymatebion gan ystod o randdeiliaid. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cryno yn yr hydref ac yn ceisio datblygu fframwaith i gydlynu camau gweithredu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae Cymru'n wynebu heriau a chyfleoedd gwahanol i weddill y DU. Yn y DU mae'r sector masnachu yn cyfrif am oddeutu 25% o allyriadau, tra bod bron i hanner allyriadau Cymru yn y sector masnachu yng Nghymru (46%). Mae hyn yn arwain at amrywioldeb sylweddol yn ein hallyriadau, yn enwedig oherwydd pwysigrwydd a chyfran uchel diwydiant a gweithgynhyrchu'r DU yn ein heconomi a'r ffaith ein bod yn allforiwr net o gynhyrchion ynni i rannau eraill o'r DU. Mae data eleni yn dangos bod y sector cyflenwi ynni a'r sector busnes yn gyfrifol am hanner ein hallyriadau yn 2021. Mae'r anwadalrwydd arbennig o uchel yn y sectorau hyn ynghyd â'r ffaith bod y sectorau yn bennaf o fewn Llywodraeth y DU, yn golygu nad oes modd rhagweld perfformiad yn erbyn ein targedau. Mae hwn yn bwynt pwysig a amlygodd Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd hefyd yn eu Hadroddiad Cynnydd diweddaraf. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn barod i chwarae eu rhan, yn union fel yr ydym ni.

Mae her newid hinsawdd yn gofyn inni weithio gyda'n gilydd. Yr wythnos hon rwyf i ym Mrwsel, fel aelod Grŵp Llywio y Cynghrair Dan2. Roedd Cymru yn un o sylfaenwyr y rhwydwaith, sydd bellach wedi tyfu i 167 o wladwriaethau unigol, sef cyfanswm o dros 50% o gynnyrch domestig gros byd-eang. Cyn COP28 ac fel yr amlygwyd gan Gytundeb Hinsawdd Glasgow a Chynlluniau Gweithredu Sharm el-Sheikh, mae angen gweithredu brys ar sawl lefel. Credwn y gall y camau y mae Cymru ac aelodau eraill o'r rhwydweithiau hyn yn eu cymryd greu pwysau i sicrhau newid ar lefel fyd-eang, gan ddangos yr hyn sy'n bosibl. Drwy'r clymbleidiau rhyngwladol rydym yn rhan ohonynt rydym wedi cael ysbrydoliaeth ac anogaeth, ac wedi gweld diddordeb gwirioneddol yn y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru, i wrthwynebu echdynnu tanwyddau ffosil, newid buddsoddiadau seilwaith a mynd ar drywydd adfer ein stôr carbon naturiol.  Gyda'i gilydd mae'r cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ledled y taleithiau a'r rhanbarthau hyn yn enfawr ac yn rhoi gobaith i mi allu frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gosod y llwybr byd-eang i allyriadau sero net erbyn 2050.

[1] Y blynyddoedd sylfaen ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yw: 1990 ar gyfer carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus; 1995 ar gyfer y nwyon wedi’u fflworeiddio.