Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gen i ddatgan bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Datganiad Cenhadaeth newydd am ein gweithgareddau yn yr Economi Sylfaenol. Mae hyn yn ymateb i adborth gan randdeiliaid ac yn egluro nodau, gweithredoedd a gweithgareddau Llywodraeth Cymru i sicrhau economi deg a ffyniannus ym mhob rhan o'r wlad. 

Mae ffocws Cymru ar yr Economi Sylfaenol yn unigryw ac yn ffordd o fesur effaith y penderfyniadau economaidd a wneir ar yr hinsawdd a'n cymunedau. Mae ei phwyslais ar economi  a chymdeithas wydn yn fantais mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd byd-eang.

Mae'r term 'Economi Sylfaenol' yn cyfeirio at y sectorau hynny o'r economi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n sylfaenol i fywyd bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu cymdeithas wydn trwy ganolbwyntio ar wella'r sectorau hyn, gan gynnwys y nwyddau, y gwasanaethau a'r swyddi y maen nhw'n eu darparu. 

Sectorau'r Economi Sylfaenol yng Nghymru yw gwasanaethau iechyd a gofal, rheoli tai cymdeithasol, adeiladu cartrefi c adeiladau masnachol, ynni a chyfleustodau, bwyd, siopau a gwasanaethau'r stryd fawr, twristiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus. 

Trwy ein gwaith yn yr Economi Sylfaenol, ein nod yw "rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd" sef yr arian sydd gan bobl ar ôl gwario ar hanfodion. I'r perwyl hwn rydym yn annog Gwaith Teg, er enghraifft trwy hyrwyddo'r Cyflog Byw Go Iawn. Rydym yn ceisio gwneud hyn hefyd trwy gyflenwi'n lleol gyda'r nod o wneud nwyddau a gwasanaethau sylfaenol yn fwy fforddiadwy, er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd pawb. 

Nodwedd graidd ein Heconomi Sylfaenol yw adeiladu cadwyni cyflenwi lleol mewn sectorau sylfaenol, er mwyn cadw pobl, sgiliau a chyfoeth yng Nghymru. Mae hyn yn mynd law yn llaw â datgarboneiddio ein system ynni a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae hefyd yn golygu annog pobl i arbrofi ac arloesi. Rydym am weld amrywiaeth o ddarparwyr yn darparu gwasanaethau sylfaenol, gan gynnwys cwmnïau cydweithredol a busnesau sy'n eiddo i'r gymuned. Bydd hynny'n helpu i adeiladu seilwaith cymdeithasol gwydn - yn ogystal â seilwaith ffisegol.

I ategu'r Datganiad Cenhadaeth, caiff set o fesurau sy'n seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol perthnasol Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol eu cyhoeddi maes o law. Bydd y mesurau hyn yn helpu pobl i ymwneud â'n Heconomi Sylfaenol a byddwn yn gallu eu defnyddio i weld i ba raddau rydym yn cyflawni ein hamcanion.