Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlais yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth er mwyn datblygu cyfres o gamau gweithredu y gallwn eu cymryd ar y cyd yng Nghymru i gynorthwyo natur i adfer. Dewiswyd y targed ‘30 erbyn 30’ fel canolbwynt strategol ar gyfer yr archwiliad dwfn er mwyn ystyried ble a sut gellir cyflymu’r camau. Mae ‘30 erbyn 30’ yn cyfeirio at ddiogelu a rheoli’n effeithiol o leiaf 30% o’n tir, ein dŵr croyw a’n môr er budd natur erbyn 2030.

Byddwn yn dal gafael ar aelodau grŵp yr archwiliad dwfn er mwyn iddynt allu cynorthwyo gyda’r broses o roi eu hargymhellion ar waith. Pleser yw cyhoeddi ein diweddariad chwemisol cyntaf. Mae’r diweddariad hwn yn cydnabod y cynnydd a wnaed a’r cerrig milltir a gyrhaeddwyd yn erbyn pob un o’r argymhellion cyhoeddedig, a hefyd mae’n nodi’r camau nesaf sy’n ofynnol er mwyn cwblhau’r argymhellion hyn.

Mae ‘30 erbyn 30’ yn un o blith nifer o dargedau sy’n rhan o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang newydd y cytunwyd arno yn COP15 ym mis Rhagfyr 2022. Rwyf wedi ymrwymo i weithredu’r Fframwaith newydd, nid y targed ‘30 erbyn 30’ yn unig. Mae angen inni gymryd camau uchelgeisiol ac integredig er mwyn rhoi natur ar y llwybr tuag at adferiad. Bydd argymhellion yr archwiliad dwfn yn cynorthwyo i gyflawni’r gwaith hwn, a bydd y gwaith yn cael ei gefnogi gan ein targedau natur cyfreithiol-rwymol ein hunain, a’i ategu gan gynllun gweithredu bioamrywiaeth strategol newydd.