Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gosodwyd drafft diwygiedig o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Bydd y Gorchymyn Swyddogaethau hwn yn trosglwyddo’r ystod lawn o swyddogaethau i’r un corff amgylcheddol newydd yng Nghymru – Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ar y Gorchymyn ar 19 Mawrth 2013. I gynorthwyo Aelodau wrth iddynt ystyried manylion y Gorchymyn Swyddogaethau, rwyf hefyd am gyhoeddi drafft o Gynllun Trosglwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r Cynllun Trosglwyddo yn ymdrin â throsglwyddo asedau, rhwymedigaethau a staff o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth i’r corff newydd (a rhai trosglwyddiadau i ac o Lywodraeth Cymru).

Bydd y Cynllun yn cwmpasu trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau, gan gynnwys data a hawliau’n ymwneud ag eiddo deallusol, a hefyd trosglwyddo staff (gan gynnwys diogelu cyflogaeth a hawliau pensiwn). Bydd hefyd yn fodd i drosglwyddo contractau.

Disgwyliaf wneud fersiwn terfynol o’r Cynllun yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth pan fydd, er enghraifft, rhestrau terfynol y staff ac asedau sydd i’w trosglwyddo wedi eu cadarnhau.

Ni fydd y Cynllun Trosglwyddo, a wneir yn unol ag adran 23 y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, yn destun pleidlais yn y Cynulliad, ond mae’n bosibl y bydd medru gweld y Cynllun Trosglwyddo yn ei ddiwyg drafft presennol yn ddefnyddiol i Aelodau’r Cynulliad wrth ystyried y Gorchymyn Swyddogaethau.