Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) - sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon - wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad ar ehangu ETS y DU. 

Ym mis Gorffennaf 2023 cadarnhaodd yr Awdurdod ei fwriad i gyflwyno ynni o wastraff a llosgi gwastraff  i'r cynllun o 2028 ymlaen, gyda chyfnod monitro, adrodd a dilysu dwy flynedd yn unig o 2026. Mae'r ymgynghoriad heddiw yn rhoi rhagor o fanylion ar sut y bydd yr ehangiad hwn yn cael ei weithredu, gan roi eglurder i sbarduno buddsoddiad mewn datgarboneiddio.

Daw'r ail ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddiad yr Awdurdod, hefyd fis Gorffennaf diwethaf, fod y cynllun yn farchnad hirdymor addas ar gyfer tynnu nwyon tŷ gwydr. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn archwilio sut y gellid integreiddio technolegau tynnu nwyon tŷ gwydr wedi'u peiriannu o'r DU fel Dal Carbon mewn Aer yn Uniongyrchol, lle mae carbon deuocsid yn cael ei dynnu o'r aer a'i storio'n barhaol, i ETS y DU. Wrth wneud hynny, mae'n anelu at ysgogi buddsoddiad yn y technolegau hyn. Mae hefyd yn ystyried ymhellach y sefydlogrwydd o storio, y costau a'r effeithiau posibl ar reoli tir ehangach pe bai technolegau o ansawdd uchel ar gyfer tynnu nwyon tŷ gwydr o goetir yn y DU yn cael eu cynnwys yn y cynllun.

Bydd yr ymgynghoriad ar wastraff ar agor am wyth wythnos, tan 18 Gorffenaf 2024. Bwriad y cyfnod ymgynghori byrrach hwn yw rhoi amser i gwblhau rhagor o waith paratoi, a galluogi gweithredu’r cynigion erbyn 2026, fel yr ymrwymwyd i wneud yn flaenorol. Bydd unrhyw risg sy’n deillio o’r dull hwn yn cael ei lliniaru gan waith ymgysylltu helaeth i sicrhau cyfranogiad llawn rhanddeiliaidBydd yr ymgynghoriad ar dynnu nwyon tŷ gwydr ar agor am 12 wythnos tan 15 Awst 2024.

Bydd yr Awdurdod, ynghyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt i gasglu barn i gefnogi penderfyniadau terfynol ar sut y bydd ETS y DU yn cael ei ehangu. Bydd y diwygiadau hyn i ETS y DU yn gofyn am ddiwygiadau i Orchymyn Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr y DU, felly bydd y Senedd, ynghyd â Seneddau eraill y DU  yn cael cyfle i graffu ar gynlluniau unwaith y byddant wedi'u cwblhau. 

Gyda'i gilydd, bydd yr wybodaeth a gesglir yn amhrisiadwy wrth lywio'r gwaith o ehangu'r cynllun, a fydd yn ei dro yn cynyddu'r allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi'u cwmpasu o dan derfyn allyriadau'r cynllun. Rwy'n disgwyl ysgrifennu eto ar gynigion ehangu pellach yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cymell arloesedd, yn sbarduno gostyngiadau mewn allyriadau, ac yn helpu i sicrhau dyfodol cadarn, cynaliadwy i Gymru.  

Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'w hysbysu o'r ymgyngoriadau hyn.