Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar 11 Mehefin byddwn yn dathlu'r ail Ddiwrnod Chwarae Rhyngwladol (dolen allanol), ac rwyf wrth fy modd yn cael cyflwyno fersiynau plant a phobl ifanc o'n Hadroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, ynghyd ag animeiddiad llawn gwybodaeth (dolen allanol).
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r lle canolog i hawliau plant ym mhopeth a wnawn. Rydym am i blant a phobl ifanc gael gwybod am ein taith wrth inni symud ymlaen â'n camau gweithredu mewn ymateb i argymhellion Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
Thema Diwrnod Chwarae Rhyngwladol eleni ar 11 Mehefin yw "Dewis chwarae – bob dydd". Drwy ein deddfwriaeth ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, sydd ymhlith y mwyaf blaengar yn y byd, a'r camau rydym yn eu cymryd yn dilyn ein Hadolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, rydym yn dangos y gwerth rydym yn ei roi ar bwysigrwydd chwarae ym mywydau ein plant a'n pobl ifanc. Fel Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, rwy'n gweithio ar draws y Llywodraeth, mewn cydweithrediad â phortffolios allweddol eraill, er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
Byddwn yn croesawu Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2025 awdurdodau lleol ddiwedd y mis hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed barn plant am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt chwarae.
Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a'n rhanddeiliaid eraill, i gefnogi ein huchelgeisiau i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae a gwella ansawdd mannau chwarae. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cynigion awdurdodau lleol ar gyfer eu defnydd o'r cyllid cyfalaf gwerth £5m yr ydym wedi'i ddyfarnu eleni i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae, gan gynnwys creu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.
Rwyf am fynegi fy niolchgarwch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r cynnydd yr ydym wedi'i sicrhau hyd yma, ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio i wireddu ein gweledigaeth i wneud Cymru yn wlad lle mae cyfleoedd i chwarae.