Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a
Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw rydym yn falch o gyhoeddi Ffeithlun Blynyddol y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.
Wrth wraidd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar y mae'r plentyn a'r angen i ddiwallu ei anghenion datblygu. Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn cydnabod bod plentyndod yn werthfawr a bod babanod a phlant bach yn chwarae, yn dysgu ac yn tyfu mewn ffyrdd gwahanol, a bod angen gofalu amdanynt a'u meithrin er mwyn cefnogi'r datblygiad hwnnw. Rydym wedi ymrwymo i chwalu'r rhwystrau i sicrhau bod babanod a phlant bach yn cael eu cefnogi i gael plentyndod llawn a hapus drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu'n ddwyieithog.
Mae'r ffeithlun yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar mewn perthynas ag ansawdd y ddarpariaeth, mynediad at y ddarpariaeth a gwaith cefnogi a datblygu'r gweithlu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rydym yn falch o'r hyn a gyflawnwyd:
- Ymrwymo dros £150m i gynnal a thyfu gofal plant o ansawdd uchel yng Nghymru, gan gynnwys cynyddu’r gyfradd fesul awr o £5.00 i £6.40 ar gyfer y Cynnig Gofal Plant o fis Ebrill 2025, a sicrhau cynnydd ar gyfer elfen addysg feithrin y Cynnig ac elfen gofal plant Dechrau'n Deg
- Cynnydd rhagorol wrth gyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i blant dwy oed ledled Cymru drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Ariannu Mudiad Meithrin i gyflwyno'r rhaglen Sefydlu a Symud sydd wedi cefnogi 79 o ddarpariaethau cyfrwng Cymraeg i agor neu ehangu gyda 19 o ddarpariaethau ychwanegol yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd
- Darparu £5m o gyllid cyfalaf i awdurdodau lleol yn 2025-26 i gefnogi mynediad cynhwysol plant at gyfleoedd chwarae
- Cefnogi Straen Trawmatig Cymru i dreialu cwrs hyfforddiant newydd ar Ymarfer, Sgiliau a Strategaethau sy'n ystyriol o drawma ar gyfer (y rhai sy'n gweithio gyda) Plant a Phobl Ifanc
- Ariannu awdurdodau lleol i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth cyn-gofrestru ar gyfer gwarchodwyr plant
- Ariannu Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth i ddarparu sesiynau dysgu proffesiynol i ymarferwyr ac arweinwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
- Datblygu gwell cyfres arweinyddiaeth o ddysgu gwrth-hiliol ar gyfer arweinwyr gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin
- Datblygu eglurydd wedi'i animeiddio ar sut mae Ysgolion Bro yn cefnogi Tegwch mewn Addysg.
- Cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'r canllawiau statudol 'Cymru - Gwlad lle mae cyfle i chwarae' i awdurdodau lleol
- Gweini dros 50m o brydau ysgol am ddim ers y lansiad ym mis Medi 2022
Rydym yn gwybod y gellir bob amser wneud mwy. Felly, rydym hefyd wedi defnyddio'r diweddariad hwn fel cyfle i nodi beth arall y byddwn yn ei wneud hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon. Rydym wedi ymrwymo i alluogi pob baban a phlentyn ifanc ledled Cymru i ffynnu drwy gyfleoedd gofal, chwarae a dysgu a datblygu effeithiol.