Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel yng Nghymru, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar.

Mae datblygiad plant wrth wraidd ein polisïau a'n darpariaeth chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar.

Mae’r Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru  yn dwyn ynghyd y gofynion ar gyfer darparu'r math o ddarpariaeth a safon y ddarpariaeth yr ydym ei heisiau yng Nghymru

Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol  wedi'i ddatblygu i gefnogi unigolion a thimau i fyfyrio ar ansawdd eu darpariaeth.

Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3 yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i ddatblygiad plant a'r ffordd orau o gefnogi plant ifanc iawn i dyfu a datblygu.

Mae'r rhain i gyd yn cyd-fynd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru a'r Cwricwlwm i Gymru.

Dylid defnyddio pob un o'r dogfennau hyn ochr yn ochr â'i gilydd i helpu ymarferwyr i gynllunio profiadau ystyrlon sy'n ymateb i anghenion a diddordebau datblygol babanod a phlant ifanc iawn. Dylai'r gyfres o ddeunyddiau cymorth sicrhau bod ymarferwyr yn cynnig dulliau chwarae, dysgu a gofal llwyddiannus sy'n llawn gwybodaeth ac yn seiliedig ar dystiolaeth yn ystod plentyndod cynnar a'u helpu i fyfyrio ar eu harferion a’u gwella'n barhaus er mwyn helpu pob baban a phlentyn ifanc i dyfu a datblygu’n well.

Hoffem ddiolch i bawb a fu'n ymwneud â’r dogfennau hyn, sydd wedi'u cynhyrchu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr.

Bydd y dogfennau hyn yn parhau i fod ar ffurf drafft ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth i ni ymgysylltu â'r ystod ehangaf bosibl o ymarferwyr. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r fersiynau terfynol ym mis Mehefin 2024.