Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn ymgynghoriad, rydym heddiw yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig a gwell ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru, i'w gweithredu ym mis Tachwedd.

Pecyn gofal a chymorth a ariennir gan y GIG yw Gofal Iechyd Parhaus, ar gyfer pobl sydd ag anghenion gofal cymhleth am resymau sy’n gysylltiedig yn bennaf â’u hiechyd. Wrth bennu manylion y gofal a chymorth a ddarperir i unigolyn, defnyddir y pedair nodwedd allweddol o angen – ystyrir natur, dwyster, cymhlethdod a pha mor anodd eu rhagweld yw’r anghenion hynny. Nodir y trefniadau presennol ar gyfer darparu Gofal Iechyd Parhaus yn y Fframwaith Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2014 ('Fframwaith 2014’).

Ymgynghori

Fel rhan o ymrwymiad a wnaed ers amser i adolygu’r trefniadau yn Fframwaith 2014, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn 2019 ar fframwaith cenedlaethol diwygiedig ac Adnodd Cymorth Penderfynu, a ddefnyddir wrth asesu cymhwystra ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus.

Yn y Fframwaith ar ei newydd wedd, ceisiwyd darparu mwy o eglurder gyda dyluniad gwell sy’n adlewyrchu'r broses Gofal Iechyd Parhaus o'r dechrau i'r diwedd. Roedd hyn yn cynnwys gofynion asesu a nodwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a threfniadau ar gyfer monitro a rheoli gofal o dan Ddeddf 2014. Roedd hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fodloni anghenion lle darperir Gofal Iechyd Parhaus i unigolion yn eu cartref eu hunain. Cafodd darpariaethau ynghylch pontio o Ofal Parhaus i Blant i Ofal Iechyd Parhaus i oedolion yn 18 oed eu cryfhau hefyd, i gyd-fynd â’r Canllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc (2020).

Y Fframwaith ar ei newydd wedd

Roedd yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, yn nodi barn rhanddeiliaid gan gynnwys pryderon bod angen mwy o eglurder mewn rhai meysydd. Nodwyd hefyd y camau nesaf y byddem yn eu cymryd i ystyried yr ymatebion a chydweithio â phartneriaid i ddiwygio'r Fframwaith ymhellach. Yn benodol, cydnabuom bwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer yr unigolyn ei hun, ei deulu a'i ofalwyr. Y bwriad oedd cyhoeddi'r Fframwaith ar ei newydd wedd a'r Adnodd Cymorth Penderfynu ym mis Ebrill 2020. Cafodd y gwaith hwnnw ei atal dros dro oherwydd effaith pandemig y coronafeirws, ond mae wedi'i gwblhau erbyn hyn. 

Rydym wedi cryfhau'r geiriad yn Fframwaith 2021 ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a llais a rheolaeth dros ofal, yn enwedig yn y rhyngwyneb rhwng Gofal Iechyd Parhaus a thaliadau uniongyrchol.

Rydym hefyd wedi egluro rolau a chyfrifoldebau Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol a rôl yr unigolyn a'i gynrychiolydd drwy gydol y broses asesu. Yr unigolyn ei hun sy’n deall ei sefyllfa ei hun orau – mae’n hanfodol cynnwys yr unigolyn a/neu ei gynrychiolwyr fel cyd-gynhyrchwyr sydd wedi'u grymuso wrth gynnal yr asesiad ac yn y broses o gynllunio gofal. Rhaid eu gwahodd i fod yn bresennol mewn unrhyw asesiad o'u hanghenion gofal a chymorth, ac i gymryd rhan yn y broses yn llawn. Rydym hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod yr asesiad a’r ddarpariaeth gofal yn cael eu cyflawni yn newis iaith yr unigolyn.

Derbyniwyd bod y cyfnod apelio arfaethedig o 28 o ddiwrnodau yn annigonol. Wedi i drafodaethau gael eu cynnal â rhanddeiliaid, rydym wedi newid hyn i gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer rhoi gwybod i'r Bwrdd Iechyd Lleol am fwriad i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cymhwystra, a 6 mis ar gyfer cyflwyno'r apêl yn ysgrifenedig.

Llais a rheolaeth, Gofal Iechyd Parhaus a thaliadau uniongyrchol

Symiau ariannol a ddarperir gan awdurdodau lleol o dan ddyletswyddau yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yw taliadau uniongyrchol. Fe’u telir i unigolion, neu eu cynrychiolydd, i'w galluogi i fodloni eu hanghenion cymwys am ofal a chymorth, neu anghenion cymorth yn achos gofalwr. Ni all Byrddau Iechyd Lleol ddarparu taliadau uniongyrchol o dan y ddeddfwriaeth bresennol.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi ymrwymiad i 'Wella'r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a Thaliadau Uniongyrchol’. Rydym wedi cryfhau'r geiriad yn Fframwaith 2021 ynghylch hawl unigolyn i arfer llais a rheolaeth i benderfynu sut, pryd a phwy sy'n eu cefnogi i fodloni eu hanghenion gofal a chymorth cymwys, yn enwedig wrth drosglwyddo o daliadau uniongyrchol i Ofal Iechyd Parhaus. Mae hyn yn cynnwys nodi rhai enghreifftiau penodol o'r camau y gall Byrddau Iechyd Lleol eu cymryd i gefnogi hyn. Byddwn hefyd yn datblygu canllawiau pellach ar hyn mewn da bryd i'w gweithredu ym mis Tachwedd.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud eto. Byddwn yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau o'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, i ystyried atebion hirdymor addas, gan gynnwys newidiadau posibl i ddeddfwriaeth sylfaenol i ganiatáu taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus.

Y camau nesaf

Yn ystod y cyfnod gweithredu, byddwn yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol a phartneriaid i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth lawn o ofynion Fframwaith 2021 a'i fod yn cael ei weithredu'n gywir. Byddwn hefyd yn adolygu Fframwaith Perfformiad Gofal Iechyd Parhaus, er mwyn sicrhau y ceir trefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd effeithiol.

Roeddem yn cydnabod drwy'r ymgynghoriad fod angen gwneud mwy i sicrhau bod unigolion yn cael gwybod yr holl fanylion mewn perthynas â Gofal Iechyd Parhaus. Dyna pam rydym yn datblygu un llyfryn gwybodaeth cynhwysfawr i’r cyhoedd a gyhoeddir ym mis Tachwedd, er mwyn galluogi unigolion i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau. Rydym yn parhau i weithio ar hyn ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys unigolion sydd wedi bod drwy'r broses asesu. Bydd y llyfryn yn nodi pob cam o'r broses ar gyfer unigolion ac yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth a'r cyngor pellach sydd ar gael. Bydd ar gael yn ddwyieithog ac ar ffurf Hawdd ei Ddeall.

Cyhoeddwyd yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth ar 29 Mehefin 2021. Byddai canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cefnogi adolygiad ehangach o bolisïau Gofal Iechyd Parhaus a Gofal Nyrsio a Ariennir a'r rhyngwyneb â thaliadau uniongyrchol. Byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu'r gwaith hwn.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.