Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau gynhyrchu'r cynlluniau tymor canolig integredig yn flynyddol.

Mae datblygiad Fframwaith Cynllunio'r GIG ar gyfer 2018/21 yn rhoi cyfarwyddyd pellach ynghylch cynhyrchu cynlluniau tymor canolig integredig clir y mae modd eu cyflawni. Eleni, mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol a sicrhau twf pellach i aeddfedrwydd y system gynllunio yng Nghymru.

Mae’r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, a'r Adolygiad Seneddol interim yn dangos pa mor bwysig yw sefydliadau iechyd poblogaeth sy’n canolbwyntio ar atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth.

Mae gofynion y Fframwaith Cynllunio yn cynnwys

  • Gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) ymhellach, a mabwysiadu'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a chyfrannu at y nodau llesiant
  • Ansawdd a Diogelwch – ysgogi gwelliant o ran diogelwch, canlyniadau, effeithlonrwydd a bodlonrwydd defnyddwyr gwasanaethau
  • Gofal iechyd darbodus sy'n seiliedig ar werth – gofal iechyd sy'n addas ar gyfer anghenion ac amgylchiadau cleifion
  • Mynediad amserol at ofal
  • Integreiddio a newidiadau i systemau – osgoi gweithio heb ymwneud ag eraill a galluogi gwasanaethau ysbyty (gwasanaethau gofal eilaidd) i gael eu symud i wasanaethau lleol (gofal sylfaenol a chymunedol)
  • Iechyd meddwl
  • Cydweithio – hyrwyddo partneriaethau ffyniannus i sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol ar lefel ranbarthol, is-ranbarthol ac ar draws y sector cyhoeddus a ffiniau eraill.

Mae’r fframwaith ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn: llyw.cymru