Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad ym mis Rhagfyr 2025, rwy'n falch o gyhoeddi Cyfarwyddydau Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2026 a chanllawiau statudol ‘Gwaith ieuenctid yng Nghymru: cyflawni dros bobl ifanc’, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae hwn yn cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddeddfu i greu fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid.

Mae cwblhau'r fframwaith hwn yn benllanw gwaith helaeth dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn cynnwys ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid pan roeddwn yn gadeirydd y Pwyllgor, ymlaen i waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro wedi hynny ac, yn fwy diweddar, ffocws y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar ddatblygu a gweithredu ystod o argymhellion gyda'r nod o gyflawni model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r fframwaith yn sefydlu trefniadau cynllunio ac atebolrwydd clir, yn ogystal â nodi ein disgwyliadau i awdurdodau lleol i asesu anghenion pobl ifanc, blaenoriaethu'r anghenion hynny a gosod amcanion i gefnogi a datblygu gwaith ieuenctid. Mae cydweithio – rhwng sefydliadau sy'n llunio a chyflawni gwaith ieuenctid, yn ogystal â phobl ifanc eu hunain – yn ganolog i'r fframwaith.

Mae gan bobl ifanc rôl hanfodol i'w chwarae wrth wireddu'r fframwaith hwn. Mae'r fframwaith yn pwysleisio bod rhaid i'w barn lunio'r cynlluniau strategol gwaith ieuenctid y bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol, ar y cyd â phartneriaid, eu datblygu. Bydd yn rhaid casglu barn pobl ifanc hefyd yn rheolaidd wrth weithredu'r cynlluniau hynny, gan helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn deall sut mae eu barn wedi llywio penderfyniadau ac fel modd o ddal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfrif.

Nid yw cyrraedd y garreg filltir bwysig hon wedi bod yn hawdd, yn enwedig o ystyried amrywiaeth y rhanddeiliaid sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru. Mae wedi bod yn hanfodol i weithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr ar draws y sector gwaith ieuenctid i wrando ar bryderon ac archwilio ffyrdd o sicrhau bod y fframwaith hwn yn cyflawni ein nod o gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y fframwaith yn adlewyrchu cyfraniad hanfodol a gwerthfawr y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol. Mae pwynt adolygu wedi'i ymgorffori i’r fframwaith er mwyn ystyried, erbyn hydref 2028, a yw ein hamcanion arfaethedig wedi'u cyflawni, a pha gamau pellach y gallai fod angen eu cymryd i gyflawni'r nodau hyn.

Bydd y fframwaith hwn, ochr yn ochr â'n gwaith i ddatblygu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn helpu i hyrwyddo gwaith ieuenctid, gan sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall a'i fod yn parhau i ymateb i anghenion pobl ifanc. 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu mor gadarnhaol i sicrhau ein bod yn cyrraedd y garreg filltir hon, am eu hymrwymiad, yn ogystal â chydnabod y cyfraniad amhrisiadwy a wneir gan waith ieuenctid ym mhob cwr o Gymru i helpu i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyflawni eu potensial.