Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi Fframwaith Strategol a Chynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol diwygiedig cyfunol, sy’n rhoi diweddariad ar yr hyn a wnaed ers cyhoeddi’r Fframwaith gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2010. Mae’n nodi ein huchelgais y bydd pawb, erbyn 2020, sy’n dymuno gwneud hynny’n cael budd llawn o’r cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau digidol. I’r rhai sy’n dewis peidio â chofleidio’r byd digidol, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r effaith gadarnhaol y mae bod â’r mynediad, y sgiliau a’r cymhelliad i ddefnyddio technolegau digidol yn gallu’i chael ar fywydau unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Mae gwelliannau i’n seilwaith band eang trwy ein rhaglen Cyflymu Cymru, dyfeisiau rhatach a haws i’w defnyddio megis ffonau clyfar a llechi, a gwelliannau parhaus yn ansawdd gwasanaethau ar-lein oll yn gwneud y profiad i ddefnyddwyr sydd â chymhwysedd digidol yn well nag erioed. Fodd bynnag, i’r rhai sy’n dal wedi’u hallgáu o’r byd digidol, mae hyn yn anfantais go iawn gyda phobl yn teimlo’n gynyddol eu bod yn cael eu gadael ar ôl, wrth i fwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, fynd ar-lein.
 
Gwyddom y gall cynhwysiant digidol wneud gwahaniaeth sylweddol i gyfleoedd bywyd pobl, boed o ran helpu pobl i ddod o hyd i waith a mynd ymlaen â’u gyrfaoedd, agor y drws ar gyfleoedd dysgu gwell neu helpu i incwm cyfyngedig fynd ymhellach trwy brynu nwyddau a gwasanaethau am bris rhatach ar-lein. Gall hefyd leihau teimladau o fod yn ynysig ac yn unig trwy helpu unigolion i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau neu deulu a rhwydweithiau cymorth eraill.  Gall creu cymdeithas sy’n fwy cynhwysol yn ddigidol wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni’r saith nod yn ein deddfwriaeth arloesol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae allgau digidol, yn seiliedig ar ddefnydd rheolaidd o’r rhyngrwyd, wedi gostwng o 34% yn 2010 i 19% yn ffigyrau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru o fis Mehefin 2015. Mae ffigyrau Ofcom o fis Awst 2015 yn dangos mwy byth o gynnydd gan fod gan Gymru gyfradd uwch o ran defnyddio’r rhyngrwyd nag unrhyw un o wledydd eraill y DU, sef 85%.

Trwy’r Fframwaith a’r Cynllun Cyflawni diwygiedig, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth strategol. Fodd bynnag, dim ond ymdrech ar y cyd ar draws y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus all sicrhau cynhwysiant digidol mewn gwirionedd. Mae hon yn dal i fod yn agenda drawsbynciol y mae’n rhaid ei phrif-ffrydio ar draws pob sefydliad a chymdeithas yn ehangach.  

Ym mis Mehefin 2014 fe bennon ni dargedau diwygiedig i’w cyrraedd yn 2015 a 2017. Roedd y targedau mwy ymestynnol hyn yn ymgais i daro cydbwysedd rhwng uchelgais a realaeth. Mae’r ymchwil ddiweddaraf yn awgrymu bod cynnydd wedi parhau ar draws ein holl grwpiau blaenoriaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf gweithgarwch sylweddol, bu cynnydd arafach ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol a phobl anabl, sy’n dangos yr heriau lluosog sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael ag allgau digidol ymhlith y grwpiau blaenoriaeth hyn.  Rydym wedi cadw’r targedau heriol sydd i’w cyrraedd yn 2017, er y byddwn yn ymgysylltu â rhai o’r rhai mwyaf gwrthwynebus i ddefnyddio technolegau digidol. Rydym am i bobl fod â’r cymhelliant, y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio technolegau digidol yn annibynnol fel y gall gael effaith bositif ar eu bywydau.

Mae’r Fframwaith a’r Cynllun Cyflawni diwygiedig yn adeiladu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid wedi’i wneud dros y deng mlynedd diwethaf ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Trwy barhau i weithio gyda phartneriaid, a defnyddio’r ysgogiadau sydd gennym yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl, ein nod fydd annog pawb i sylweddoli’r potensial sydd i’r byd digidol weddnewid bywydau pobl.  

Trwy ein buddsoddiad yn Cymunedau Digidol Cymru, yr olynydd i Cymunedau 2.0, mae gennym fenter bwrpasol sy’n cefnogi cynhwysiant digidol ar gyfer unigolion trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n gweithio gyda’r grwpiau sydd wedi’u hallgáu fwyaf o’r byd digidol. Mae Cymunedau Digidol Cymru eisoes wedi helpu rhyw 16,000 o unigolion yn ôl yr amcangyfrifon trwy’r cymorth a roddwyd i dros 420 o sefydliadau. Mae bron i 800 o wirfoddolwyr a staff rheng-flaen wedi’u hyfforddi i roi’r help sydd ei angen ar lawer o unigolion.

Rydym wedi gwneud llawer o ran helpu i annog mwy o bobl i ddefnyddio a chael budd o’r technolegau digidol diweddaraf. Mae llawer mwy o sefydliadau ar draws pob sector yn cofleidio cynhwysiant digidol, gan gydnabod pwysigrwydd yr agenda hon, iddynt hwy eu hunain ac i’w cwsmeriaid. Ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo.

Bydd y Cynllun diwygiedig yn helpu i sicrhau nad yw pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu gadael ymhellach ar ôl wrth i’r newid anorfod i wasanaethau digidol, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, barhau. Rwyf wedi gweld cymaint o enghreifftiau o’r modd y gall y rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill weddnewid bywydau pobl ac rwyf am i bawb gael yr un cyfle.

Mae’r Fframwaith Strategol a Chynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol ar gael ar  dudalennau cynhwysiant digidol gwefan Llywodraeth Cymru