Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y rhaglen o Fframweithiau Cyffredin, rwy’n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd tuag at gwblhau sawl Fframwaith Cyffredin a'u cyhoeddi, gan adeiladu ar sylwadau'r Dirprwy Brif Weinidog yng nghyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 2 Mawrth 2026. 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i sicrhau cymeradwyaeth Weinidogol i Fframweithiau Cyffredin y mae pob un o'r pedair llywodraeth wedi cytuno nad ydynt yn rhyngweithio â Deddf Marchnad Fewnol y DU, neu fod y rhyngweithio hwnnw yn gyfyngedig. Ar 19 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Fframweithiau Cyffredin ar gyfer Organau, Meinweoedd a Chelloedd; Diogelwch ac Ansawdd Gwaed; a Thaliadau Hwyr. Mae'r pedair llywodraeth wedi cytuno i gyhoeddi pob un o'r Fframweithiau Cyffredin hyn. Yn ystod y misoedd nesaf, rwy'n gobeithio y bydd rhagor o fframweithiau yn y categori hwn yn gallu cael eu cwblhau a’u cymeradwyo gan bob un o'r pedair llywodraeth, gan gynnwys fframweithiau yn ymwneud â Gwrtaith, Caffael Cyhoeddus a Sylweddau Ymbelydrol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cysyniad o farchnad fewnol effeithiol a chydweithredol ledled y DU erioed, ond nid oes angen i hyn fod ar draul datganoli, ac ni ddylai fod. Rydym wedi bod yn gyson o blaid y rhaglen o Fframweithiau Cyffredin fel modd o sicrhau cydlyniant rheoleiddiol gan ddiogelu gallu democrataidd llywodraethau datganoledig i bennu polisïau mewn meysydd datganoledig ar gyfer eu gwledydd eu hunain.

Mae cyrraedd y cam o gymeradwyaeth drawslywodraethol i’r set hon o Fframweithiau Cyffredin yn garreg filltir gadarnhaol i'r rhaglen ar ôl sawl blwyddyn o gynnydd cyfyngedig. Mae cymeradwyaeth ffurfiol yn atgyfnerthu statws y Fframweithiau Cyffredin fel mecanweithiau rhynglywodraethol y cytunwyd arnynt, yn cynnal momentwm cyflawni, ac yn rhoi dull ffurfiol, strwythuredig o adrodd i ddeddfwrfeydd. 

Ar gyfer Fframweithiau Cyffredin sydd â goblygiadau neu ddibyniaethau mwy cymhleth o ran y farchnad fewnol, mae trafodaethau'n parhau ar lefel swyddogion ynghylch canllawiau a ffyrdd o weithio y cytunir arnynt i gryfhau rôl yr holl Fframweithiau Cyffredin wrth reoli'r farchnad fewnol, yn unol ag egwyddorion Fframweithiau Cyffredin y cytunwyd arnynt. Ar draws y rhaglen, mae Fframweithiau dros dro yn parhau i fod yn gwbl weithredol ac yn parhau i ddarparu'r sail ar gyfer ymgysylltu rhynglywodraethol a chydgysylltu polisïau.

Bydd y pwyllgorau'n cael ymatebion ffurfiol i argymhellion sy'n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin penodol ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi