Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol ar gyfer pob un o bedwar rhanbarth Cymru.

Mae datblygu'r Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad i fodel mwy penodol o ddatblygu economaidd - datblygu cryfderau unigryw ein rhanbarthau, cefnogi twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan gyfrannu at Nodau Llesiant Cymru.

Bwriedir i'r dogfennau strategol hyn fod yn gyfrwng i helpu i hyrwyddo cynllunio a darparu cydweithredol ymhlith partneriaid y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan weithio i weledigaeth a rennir a chyfres o amcanion datblygu economaidd cyffredin.  Wrth fwrw ymlaen â'u datblygiad, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ailosod a'r adferiad uniongyrchol sydd eu hangen yn sgil y pandemig ac effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond hefyd yr angen i nodi'r dyheadau tymor hwy i sicrhau Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus er budd pob rhanbarth, cymuned ac unigolyn.

Rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid ym mhob un o'r rhanbarthau i lunio'r dogfennau Fframwaith hyn.  Mae cysylltiadau gwaith agosach wedi'u meithrin gyda phartneriaid, gan gynnwys yr Awdurdodau Lleol a chyrff rhanbarthol cysylltiedig, i gyd-gynllunio dull seiliedig ar le ar gyfer datblygu economaidd.  Yr wyf yn ddiolchgar i bawb am eu mewnbwn ac i'r awdurdodau lleol yn enwedig am eu cefnogaeth barhaus.  Bydd gweithio gyda'n gilydd, mewn partneriaeth, yn allweddol hefyd i sicrhau bod y blaenoriaethau a amlinellir ym mhob dogfen Fframwaith yn cael eu gweithredu a'u cyflawni'n effeithiol. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i wneud hynny er budd pob rhanbarth. O'r herwydd, mae'r Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol hyn yn cydnabod y cam datblygu ychydig yn wahanol gyda phob dogfen:

  • Canolbarth Cymru – mae'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol yn cyd-fynd yn dda â'r gwaith a wnaed i lywio'r Fargen Twf sy'n dod i'r amlwg yn y rhanbarth. Fe'i hysbyswyd gan ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid ac fe'i cefnogwyd gan y ddau awdurdod lleol, gyda chymeradwyaeth ffurfiol yn cael ei rhagweld yn y Flwyddyn Newydd. 
  • De-orllewin Cymru – mae'r ddogfen yn cyd-fynd yn dda â gwaith manwl pellach sydd ar y gweill yn y rhanbarth i ddiffinio a chytuno ar y cynllun datblygu economaidd rhanbarthol cysylltiedig a lle mae'r ddwy ddogfen yn anelu at gael eu cymeradwyo'n ffurfiol ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol yn y Flwyddyn Newydd.
  • Gogledd Cymru – Mae'r Fframwaith wedi'i lywio gan ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid ac mae wedi'i gymeradwyo'n llawn i'w gyhoeddi gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Bydd ystyriaeth bellach a therfynol, gan yr Awdurdodau Lleol unigol a phartneriaid eraill, yn parhau i fis Ionawr.
  • De-ddwyrain Cymru – Mae Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cymeradwyo'r REF ar ei ffurf ddrafft i'w gyhoeddi. Mae'n debygol y bydd angen gwelliannau ychwanegol cyn y gallwn ei gyhoeddi ar ei ffurf derfynol

Fodd bynnag, rhaid i'r Fframweithiau hyn fod yn ystwyth er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac yn ymatebol i amgylchiadau economaidd sy'n newid a chyfleoedd newydd.  Byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu ein Cenhadaeth Adfer Economaidd a Chydnerthedd a dylent lywio ein hymdrechion ar y cyd.

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni yn erbyn y weledigaeth a'r blaenoriaethau a nodir ym mhob un o'r dogfennau hyn: mae'r cyfleoedd a'r heriau yn gofyn am ein hymdrechion cyfunol os ydym am gyflawni'n effeithiol yn erbyn ein huchelgeisiau cyfunol. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.