Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Chwefror ymrwymais i sicrhau y bydd yr ohebiaeth a fu rhyngof i a Gweinidogion y DU ynghylch yr egwyddorion sy’n sail i’r Rheolau Colegau Diogel arfaethedig ar gael i chi.

Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn gohebu ar y mater hwn gydag Andrew Selous AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, ac mae’r ohebiaeth hon bellach ynghlwm, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad.
Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos â’u cydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid allweddol i sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth o ran Colegau Diogel yn adlewyrchu’n ddigonol anghenion a gofynion plant a phobl ifanc yng Nghymru y darperir ar eu cyfer yno. 

Rydym yn cytuno y dylai gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc yn yr ystad ddiogel gyfrannu at fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol a helpu i’w hatal rhag troseddu ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Rydym bob amser wedi cydweithio’n agos ag asiantaethau cyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc o Gymru dan anfantais oherwydd bod cyfrifoldebau gwahanol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac yn benodol y systemau gwahanol sy’n bodoli o ran y cwricwlwm a chymwysterau.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd datblygu ffordd benodol o ddiwallu anghenion menywod ifanc a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.
Ar hyn o bryd nid oes cynlluniau penodol ar gyfer Coleg Diogel yng Nghymru.