Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn cyfarfod y Grŵp Gwasanaeth Cyhoeddus Digidol ym mis Chwefror 2016, cytunais â'r Gweinidog dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth yr angen i gyhoeddi’r ‘mapiau defnydd’ a gynhyrchir gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynhyrchu Adroddiadau Mapiau Defnydd Contractau – cynrychioliadau gweledol lefel uchel yw’r rhain, sy'n dangos p'un a yw sefydliad wedi defnyddio Cytundeb Fframwaith / Contract y GCC. Mae’r grid map defnydd yn dangos y sefydliadau a’r fframweithiau a ddefnyddiwyd ganddynt o fewn cyfnod penodol, fel yr adroddwyd gan gyflenwyr.

Rwyf wedi annog cyhoeddi’r mapiau defnydd er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r cytundebau cydweithredol gan sefydliadau sy'n defnyddio'r fframweithiau’r GCC.

Bydd y map defnydd ar gyfer Awdurdodau Lleol yn cael ei gyhoeddi i ddechrau, a bydd ar gael ar wefan y GCC ar ddydd Iau 10 Mawrth 2016.

http://gov.wales/docs/nps/160309-heat-map-cy.pdf