Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 5 Tachwedd 2015, cyhoeddais yr haen gyntaf o ysgolion a fyddai’n rhan o’n Rhwydwaith Ysgolion Arloesi. 

Soniais yn y cyhoeddiad hwnnw ein bod am fynd ati i ganfod mwy o Ysgolion Arloesi. Heddiw rwy’n falch o gael cyhoeddi haen arall o 38 a fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar gynllunio a datblygu’r cwricwlwm. Bydd hyn yn gwneud cyfanswm o 106 o Ysgolion Arloesi a fydd yn gweithio yn yr elfen hon o’r Rhwydwaith. O’r 38 o ysgolion newydd, mae 18 wedi’u penodi i fod yn bartneriaid ar gyfer yr Ysgolion Arloesi sydd gennym eisoes. Mae’r consortia wedi ein helpu i ganfod y rhain. Mae’r 20 Ysgol Arloesi arall a gyhoeddwyd heddiw yn aelodau o rwydwaith o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn bennaf, rhwydwaith a dynnwyd ynghyd gan Owain ap Dafydd, Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Mae penaethiaid y 106 o Ysgolion Arloesi yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad dyfeisgarwch ym mis Ionawr, cyn i’r gwaith cychwynnol ddechrau ar gynllunio strwythur ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd yr Ysgolion Arloesi sy’n canolbwyntio i ddechrau ar gynllunio a datblygu’r cwricwlwm yn cydweithio’n agos â dwy elfen arall y Rhwydwaith Ysgolion Arloesi, sef y rheini sy’n gweithio ar Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a’r rheini sy’n gweithredu’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein rhaglen ddiwygio uchelgeisiol yn cyflawni ei photensial, ac yn darparu ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Ym mis Ionawr 2016, caiff cyhoeddiad arall ei wneud ynghylch y gwaith o benodi Ysgolion Arloesi ychwanegol i ganolbwyntio ar y Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg.