Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Y bore yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025. MALlC yw'r dull swyddogol o fesur amddifadedd cymharol mewn 1,917 o ardaloedd bach yng Nghymru. Mae'n nodi'r ardaloedd sydd â'r dwysedd uchaf o wahanol fathau o amddifadedd, ac yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau, a dyrannu adnoddau a gwasanaethau i ardaloedd.
Mae amddifadedd yn fwy na thlodi yn unig. Gall hefyd olygu bod llai o adnoddau a chyfleoedd nag yr ydym yn ei ddisgwyl yn ein cymdeithas, er enghraifft o ran iechyd neu addysg. Mae MALlC yn cwmpasu 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd - incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, amgylchedd ffisegol a diogelwch cymunedol - a chesglir manylion pob un o ystod o wahanol ddangosyddion.
Mae dosbarthiad amddifadedd ledled Cymru yn bwysig wrth ddatblygu polisïau, rhaglenni a chyllid ar sail ardal. Gellir defnyddio MALlC i lywio'r penderfyniadau hyn, ac mae'n rhoi gwell dealltwriaeth o dueddiadau amddifadedd yng Nghymru, gan gynnwys nodi'r ardaloedd bach lle mae'r amddifadedd mwyaf.
Mae MALlC 2025 yn dangos y canlynol:
- mae’r darlun cyffredinol yn debyg i’r un a roddwyd gan MALlC 2019, gyda phocedi o amddifadedd cymharol uchel yn ninasoedd a chymoedd de Cymru, amrywiol drefi arfordirol, a rhai trefi yn y gogledd-ddwyrain.
- mae amddifadedd yn wasgaredig ledled Cymru: mae pob un ond un o'r 22 o awdurdodau lleol yn cynnwys o leiaf un o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- mae dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog yn edrych ar ardaloedd sydd wedi aros yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer pob iteriad o MALlC yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf: mae 22 o ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog, sydd wedi’u rhannu rhwng 10 awdurdod lleol.
Mae Canllawiau ar sut i ddefnyddio MALlC yn briodol hefyd wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i fynd i'r afael â thlodi a gwella bywyd i bobl yng Nghymru fel blaenoriaeth absoliwt, gan gynnwys y rhai yn y cymunedau lle mae'r amddifadedd mwyaf. Bydd MALlC 2025 yn helpu i sicrhau y gellir targedu cymorth i'r cymunedau hyn sydd ei angen fwyaf.
Rydym wedi buddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi aelwydydd ledled Cymru drwy raglenni sy'n lliniaru pwysau ariannol, sy'n helpu i sicrhau cymaint o incwm â phosibl a gwneud y mwyaf ohono, ac sy'n helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi.
Mae ein rhaglenni cyflogadwyedd yn helpu pobl i feithrin sgiliau trosglwyddadwy sy'n cynyddu eu cyflogadwyedd hirdymor. Mae'r rhaglenni hefyd yn helpu i integreiddio grwpiau difreintiedig i'r gweithlu, mynd i'r afael â phrinder sgiliau a hwyluso'r broses o greu swyddi yn uniongyrchol.
Gan fod costau byw yn parhau i fod yn uchel, mae llawer o deuluoedd yn dal i'w chael yn anodd talu am hanfodion y cartref. Rydym yn darparu Bwndel Babi ar sail ardaloedd daearyddol, a fydd yn helpu i leihau'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn rhai o ardaloedd amddifadedd mwyaf Cymru.
Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru yn nodi'r camau yr ydym wedi bod yn eu cymryd, ac yn disgrifio sut rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i sicrhau bod yr opsiynau sydd ar gael inni mor bellgyrhaeddol â phosibl wrth fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'r strategaeth yn edrych y tu hwnt i incwm yn unig. Ei nod yw sicrhau bod plant sy'n byw mewn amddifadedd yn cael yr un mynediad at wasanaethau, cyfleoedd a hawliau ag eraill. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ddechrau mis Rhagfyr, a fydd yn nodi'r camau sydd wedi'u cymryd ers y diweddariad diwethaf yn 2022 mewn ymateb i amcanion ac ymrwymiadau'r strategaeth.
Nid yw'r her o dorri cylch tlodi yn un y gallwn ei datrys dros nos. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl opsiynau sydd wedi'u datganoli er mwyn mynd i'r afael â thlodi, ond mae llawer o'r opsiynau mwyaf pwerus — yn enwedig o ran lles, trethiant, a pholisi cyflog — yn parhau i fod yn bwerau i Lywodraeth y DU.
Rydym yn falch bod y Canghellor wedi gwrando ar ein galwad ynghylch diwygio lles i ddileu’r Cap Dau Blentyn, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â phroblem tlodi plant. Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y cyhoeddiad yn rhyddhad i 69,000 o blant yng Nghymru sydd wedi methu cael cymorth ariannol drwy system fudd-daliadau'r DU.
Bydd cyhoeddi MALlC 2025 yn sicrhau bod ein hymdrechion yn parhau i ganolbwyntio ar lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan helpu i greu Cymru decach, fwy cyfartal i ba.
