Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch i gyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a'r Gymraeg, sy'n ymgorffori newidiadau yn sgil Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Mae’r Ddeddf wedi atgyfnerthu’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg ar bob lefel o'r system gynllunio, gan ddechrau â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Cynlluniau Datblygu Strategol ac i lawr i Gynlluniau Datblygu Lleol. Dangosodd y Ddeddf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymdrechu i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffyniannus ac yn fywiog ym mhob rhan o Gymru.

Mae’r diweddariad hwn i TAN 20 yn rhoi cyngor i awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr a chymunedau ar sut gall y system gynllunio gefnogi a diogelu’r iaith. Mae gennym system sy’n cael ei arwain gan gynlluniau ac mae'n hanfodol bwysig bod ystyriaeth yn cael ei rhoi ym mhob cynllun datblygu i sut mae’r strategaeth, polisïau a chynigion ar gyfer safleoedd penodol yn cyfrannu at greu amodau sy’n galluogi’r Gymraeg i ffynnu. Rhaid i bob awdurdod cynllunio yng Nghymru wneud hyn – mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i ystyried yr iaith fel rhan o'r Arfarniad o Gynaliadwyedd.

Mae Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg, yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol i’r iaith. Mae TAN 20 yn cefnogi’r strategaeth gan annog Cynlluniau Datblygu Lleol i hyrwyddo mannau lle y gall bywyd cymunedol ddigwydd yn y Gymraeg. Yn hanesyddol bu’r iaith ar ei chryfaf pan fo gan bobl gyfleoedd gwaith, dewis o dai a bywyd cymdeithasol bywiog yn eu cymuned. Mae TAN 20 yn ceisio sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn gweld datblygu yn hanfodol i ddyfodol yr iaith. Dylai cyflymder a maint y datblygiad gael eu rheoli'n briodol, ond drwy gyfyngu ar ddatblygu yn ormodol, ni fydd cyfle i siaradwyr Cymraeg y presennol a’r dyfodol weithio a byw mewn cymunedau Cymraeg ffyniannus.

Mae'r TAN diwygiedig yn dwyn ynghyd y cyngor polisi a chanllawiau ymarferol a oedd gynt yn ddogfennau ar wahân. Disgwyliaf i bawb yn y system gynllunio ddefnyddio'r canllawiau hyn yn adeiladol ac i ddefnyddio’r system gynllunio datblygu fel offeryn a fydd yn helpu'r Gymraeg i ffynnu ledled Cymru.

Linc i TAN 20: http://gov.wales/topics/planning/policy/tans/planning-and-the-welsh-language/?skip=1&lang=cy

Linc i Adroddiad yr Ymgynghoriad: https://consultations.gov.wales/consultations/proposed-changes-technical-advice-note-20-planning-and-welsh-language