Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli dros 600 o asedau tir ac eiddo, am resymau sy’n amrywio o’n swyddfeydd gweithredol, cymorth economaidd i fusnesau, adeiladau diwylliannol a threftadaeth, i dir ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol a thai cymdeithasol. Mae cael dull gweithredu strategol ar gyfer rheoli ein portffolio eiddo yn ein helpu i weithredu ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol.

Mae’r ail Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol, sy’n cael ei chyhoeddi gennyf heddiw, yn nodi’r hyn rydym eisiau ei gyflawni gyda’n buddsoddiad mewn tir ac eiddo. Mae gan ein hasedau botensial gwych i roi budd i bobl Cymru. Mae angen i ni hefyd achub ar y cyfle i ddefnyddio ein hasedau eiddo i gefnogi camau gweithredu byd-eang i fynd i’r afael â materion fel yr argyfwng natur a newid hinsawdd.

Mae’r effaith a gaiff cyni, COVID-19 a’r argyfwng natur a newid hinsawdd  gyda’i gilydd yn golygu bod rhaid i ni ganfod ffyrdd newydd o arloesi a chydweithio. Rhaid i ni gydweithio ar draws y Llywodraeth a’r sector preifat i sicrhau bod ein asedau yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddyfodol ffyniannus, carbon isel, sy’n gynaliadwy.

Mae’n camau gweithredu yn ein galluogi i gefnogi economïau lleol drwy flaenoriaethu iechyd a hyfywedd yn ein dinasoedd, ein dinasoedd a’n pentrefi, gan ddarparu tai fforddiadwy a sicrhau swyddi. Mae’n her aruthrol, ond yn un sy’n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru osod esiampl, i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac i ddefnyddio ein hasedau gwerthfawr i greu gwerth cyhoeddus.

Ystadau Cymru | LLYW.CYMRU