Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog dros yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf ddatgan bod Strategaeth dair-gwlad newydd ar gyfer Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol 2022 a thu hwnt wedi’i chyhoeddi.

Ni fu sgiliau erioed yn bwysicach. Gan fod rhai diwydiannau yn ei chael hi’n anodd recriwtio, rhaid inni sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bawb gael swydd ond hefyd drwy ddysgu gydol oes, yn gallu gwneud cynnydd a datblygu unwaith maen nhw mewn swydd.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) yw’r sylfaen ar gyfer cymwysterau, dysgu a hyfforddiant a fydd yn sicrhau bod diwydiant yn cael y sgiliau sydd eu hangen arno, a bod unigolion yn cael y gyrfaoedd y maent am eu cael. Ac oherwydd bod SGC yn cael eu cydnabod ledled y DU, bydd pobl yn gallu symud yn hawdd a throsglwyddo eu sgiliau i swyddi newydd, i ddiwallu anghenion cyflogwyr ac uchelgais unigolion.

Mae SGC y DU gyfan yn cael eu cefnogi a’u galluogi gan y gynghrair strategol a buddsoddiad ariannol rhwng llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gyda’i gilydd, mae ariannu a chefnogi SGC yn dangos yr effeithlonrwydd cyffredin ac yn darparu’r dull mwyaf cost-effeithiol o ategu’r systemau sgiliau a phrentisiaethau perthnasol. Mae rhannu arbenigedd a gwybodaeth ar draws y llywodraethau datganoledig yn enghraifft wych o gydweithio ar draws llywodraeth.

Mae’r strategaeth newydd ar gyfer SGC yn nodi ein huchelgais ar y cyd i gyflawni hyn i gyd ac yn cadarnhau rôl bwysig SGC yn y system sgiliau.